Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 23 Hydref 2018.
Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni y byddan nhw'n adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddyn nhw eisoes yng Nghymru drwy'r gyfarwyddiaeth brawf a charchardai sydd eisoes wedi ei sefydlu ganddyn nhw. Fel y gwnaethon nhw ei ddweud, bydd hyn yn adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac yn adeiladu ar y partneriaethau lleol presennol y mae'r gwasanaethau prawf wedi llwyddo i'w datblygu. Felly rwy'n cynnig gwelliant 1 o'n heiddo i'r perwyl hwn.
Fel y clywsom ni, bydd y cynigion hyn yn caniatáu mwy o integreiddio yn y gwasanaeth prawf a charchardai yng Nghymru gan 'atal dioddefwyr drwy newid bywydau,' fel y gwnaethon nhw ei ddweud, gyda mewnbwn gwirioneddol gan y trydydd sector, gan wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael ar ffurf pobl. Yn dilyn hyn, rwyf, er enghraifft, yn mynd â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yng Nghymru i gwrdd â Chwmni Buddiannau Cymunedol Datblygu Ieuenctid Eagle House ym Mangor ddydd Gwener nesaf i drafod gwaith y sefydliad hwn gyda phobl ifanc sy'n troseddu neu mewn perygl o wneud hynny. Mae Eagle House eisoes wedi adeiladu perthynas weithio gref gyda chanolfannau gwaith yn y gogledd.
Fel mae'r Arglwydd Ganghellor yn ei ddweud yn yr ymgynghoriad 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder',
'rydym yn gwybod bod dedfrydau cymunedol yn aml yn fwy effeithiol na charchar o ran lleihau troseddu', ac mae'n ychwanegu:
'Bu i Drawsffurfio Adsefydlu gynnig cyfle i ystod ehangach o ddarparwyr ddarparu gwasanaethau prawf, a chreodd y strwythur sydd yn bodoli heddiw.'
Dywedodd:
'bod yna gryfder yn yr ymagwedd marchnad gymysg yma, a bod yna gyfle i ystod o ddarparwyr, yn cynnwys yn y sector gwirfoddol, barhau i gynnig syniadau ffres ac arloesol i’r gwasanaethau prawf', gan ychwanegu:
'Eisoes rydym wedi gweld gostyngiad o ddau bwynt canran yng nghyfraddau aildroseddu unigolion gaiff eu goruchwylio gan CRCau, a rhai enghreifftiau cadarnhaol o weithio da ar y cyd rhwng yr NPS, CRCau a’u partneriaid lleol.'
Dywedodd:
'Er y disgwylid anawsterau mewn rhaglen ddiwygio mor arwyddocaol a chymhleth', bod arno eisiau mynd i’r afael â’r materion yma cyn gynted â phosib. Felly, meddai, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu sut maen nhw'n bwriadu sefydlogi'r gwasanaethau prawf a gwella sut y caiff troseddwyr eu goruchwylio a gwasanaethau adsefydlu. Mae hefyd yn nodi sut y byddan nhw'n defnyddio'r gwersi y maen nhw wedi eu dysgu hyd yma i sefydlu gwasanaethau mwy cadarn a fframwaith masnachol effeithiol.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn crybwyll
'cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru a threfniadau partneriaethau presennol yng Nghymru' ac maen nhw'n dweud bod y rhain
'yn golygu bod darparu gwasanaethau prawf yn wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr.'
Dywedodd:
'Mae’r fframwaith deddfwriaethol yn rhoi cwmpas i ni allu datblygu trefniadau darparu amgen sydd yn adlewyrchu cyd-destun cyfiawnder troseddol yng Nghymru.'
Byddan nhw felly yn
'ystyried a yw’r hyn a ddysgir o’r trefniadau newydd hynny yn gymwys i’r system yn Lloegr.'
Felly, dydyn nhw ddim yn gwahanu. Maen nhw'n mynd i ddysgu oddi wrth Cymru a gobeithio datblygu hynny mewn mannau eraill. Bu AS Llafur Wrecsam, Ian Lucas, mewn digwyddiad yn Wrecsam hefyd. Fel finnau, mae'n deall y byddai datganoli cyfiawnder troseddol yn niweidiol, yn groes i'r realiti traws-ffiniol. Fe wnaeth hefyd fy atgoffa bod AS Llafur Delyn, David Hanson, yr un mor bryderus ag yntau.
Mae galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn methu â chydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol, bod dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru, 48 y cant o'r boblogaeth, yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 2.7 miliwn o bobl, 90 y cant o'r boblogaeth, o fewn 50 milltir i'r ffin. Mewn cyferbyniad, dim ond 5 y cant o boblogaeth yr Alban a Lloegr gyda'i gilydd sy'n byw o fewn 50 milltir i'w ffin nhw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw ar hyd coridorau'r M4 a'r A55, wedi'u gwahanu gan ardal wledig helaeth, a gofynion gwahanol o ran cyfiawnder troseddol. Fel yr oedd fy nghysylltiadau gwaith cynnar mewn cyfiawnder troseddol yn y gogledd yn fy atgoffa dro ar ôl tro, mae ganddyn nhw gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru, ac mae gorfodi datganoli, fel roedden nhw'n ei ddweud, i borthi balchder Gwleidyddion penodol, yn rhywbeth y dylid cadw golwg gofalus arno.
[Torri ar draws.] Ie, ar bob cyfrif.