Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 23 Hydref 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr am eu cyfraniadau i'r hyn sydd wedi bod, rwy'n credu, yn ddadl dda a meddylgar iawn y prynhawn yma. O ran y camau nesaf yn hyn o beth, rwyf hefyd yn croesawu'r consensws eang iawn o farn a glywsom ni gan Caroline Jones, ond a glywsom ni'n cael ei fynegi'n rymus gan Aelodau ar wahanol ochra'r Siambr hefyd. Rwy'n credu bod Julie Morgan wedi siarad dros bob un ohonom ni pan ddisgrifiodd fethiant preifateiddio, gan adleisio geiriau John Griffiths a Leanne Wood, a oedd yn siarad o'u profiad eu hunain o system cyfiawnder troseddol sy'n siomi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol—. Mae'n rhaid i'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood o ran gweithio gyda staff ac nid yn eu herbyn fod yn rhan o sut yr ydym ni'n gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu sylwadau John Griffiths am y cynnydd yr ydym ni'n ei weld ar y mater hwn. Mae yn llygad ei le i ddadlau bod y cynnydd wedi bod yn gyflymach ac ymhellach nag a ragwelwyd gennym ni, hyd yn oed rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn croesawu hynny. Mae'r pwyntiau a wnaed gan Julie Morgan am y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd, rwy'n credu, yn rhai da iawn, a byddaf yn ceisio dod â glasbrintiau ar gyfer troseddwyr benywaidd a throseddau ieuenctid i'r fan yma a'u cyhoeddi cyn y Nadolig. Yn sicr dyna fy mwriad heddiw.
Bu cytundeb a disgrifiadau o fethiannau preifateiddio. Ond, i ni, rydym ni eisiau mynd ymhellach na dim ond disgrifio methiannau'r gorffennol. Rydym ni eisiau cynllunio dyfodol ar gyfer pawb. Ac a gaf i ddweud hyn wrth gloi, Dirprwy Lywydd? Mae Mark Isherwood bron yno. Mae e bron yno. Byddwn yn dweud hyn wrtho: Peidiwch ag is-gontractio eich araith ysgrifenedig i— [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen hyn. Peidiwch ag is-gontractio eich areithiau a'ch ffordd o feddwl i brif swyddfa'r Ceidwadwyr: Meddyliwch, edrychwch yn fanwl—edrychwch yn fanwl ar yr hyn a welwch o'ch blaen. Rwy'n gwybod ei fod yn gweithio'n galed i gadw mewn cysylltiad ac i siarad â phobl ar hyd a lled y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli, a bydd yn gwybod o'i brofiad ei hun bod consensws eang a sefydlog ledled Cymru heddiw y dylid datganoli plismona i'r fan yma, ac, wrth wneud hynny, y dylid datganoli cyfiawnder troseddol hefyd i'n galluogi ni i greu'r system gyfannol y mae llawer o bobl wedi ei disgrifio.
Ond caniatewch i mi orffen gyda'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood: nid yw datganoli ar ei ben ei hun, at ei ddiben ei hun, yn ddigon da. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei gydnabod yw mai dechrau'r gwaith, nid ei ddiwedd, yw datganoli'r cyfrifoldebau hyn. Rydym ni'n datganoli'r cyfrifoldebau hynny er mwyn creu gwell gwasanaeth a'r cyfleoedd i wasanaethu ein pobl yn well. Nid ydym ni'n gwneud hynny dim ond oherwydd bod dogma anhyblyg yn ein cymell i ddod i'r casgliad hwnnw, felly mae'n rhaid inni wneud y pethau hyn yn gywir. Ac rwy'n cydnabod bod meysydd ar hyn o bryd lle nad ydym ni'n gwneud pethau'n gywir a lle mae angen inni wneud yn well. A dim ond drwy ddatganoli'r cyfrifoldebau hynny i'r fan yma i sicrhau y gall y fan yma graffu ar yr agweddau hynny y gallwn ni wedyn fwrw ymlaen â'r amcanion polisi hynny ac yna bydd hyd yn oed Mark Isherwood yn cytuno y byddwn ni'n gwasanaethu y pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn well nag yr ydym ni'n ei wneud heddiw.