Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 24 Hydref 2018.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn yr ystafell ddosbarth rydych newydd ei disgrifio, lle byddwch yn rhoi'r ddarlith hon, a fyddwch yn cyfarwyddo neu'n pwysleisio wrth y disgyblion hynny fod glynu at eich egwyddorion yn eithaf pwysig, ac os ceir cynnig ger eich bron y byddwch yn cytuno â'i gynnwys, y dylech benderfynu pleidleisio o'i blaid fel mater o egwyddor?