– Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
Eitem 7 ar yr agenda ein y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd a galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6835 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.
2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.
3. Yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:
5. Yn credu y dylai’r camau hynny gynnwys:
a) gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru;
b) rhoi’r gorau i gynllun llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys problem capasiti yr M4 yn yr ardal;
c) cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd y nod o adeiladau ynni agos at sero; a
d) sefydlu cwmni ynni cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae trafod y tywydd yn rhywbeth rŷm ni, fel Cymry, wrth ein boddau yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mae 2018 wedi bod yn fodd i fyw i nifer o bobl pan fo’n dod i’r tywydd, wrth gwrs. Rŷm ni’n cofio’r eira a’r oerfel mawr ar ddechrau’r flwyddyn, y glaw di-baid yna—rŷm ni i gyd yn cofio hynny, rydw i’n siŵr, yn y gwanwyn—haf crasboeth, wedyn—un o’r poethaf ar record—ac, wrth gwrs, storom Callum yn yr hydref yn dod â gwerth mis o law mewn dim ond deuddydd. Wrth gwrs, ar draws y byd, mae’r stori’r un fath, gydag enghreifftiau cynyddol o dywydd eithafol, ymhlith arwyddion eraill bod yr hinsawdd yn newid.
Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe gyhoeddwyd adroddiad arbennig y panel rhyngwladol ar newid hinsawdd, yr IPCC, ac nid jest unrhyw adroddiad arall i ddwyn ambell i bennawd rhad oedd hwnnw, ond pen llanw gwaith a gafodd fewnbwn gan filoedd o wyddonwyr hinsawdd o ar draws y byd i gyd. Mae’r neges yn yr adroddiad hwnnw’n gwbl glir: mae amser yn rhedeg allan. Mae amser yn prinhau i wneud y newidiadau i’r ffordd rŷm ni’n byw, y ffordd rŷm ni’n cynhyrchu ac yn defnyddio ynni, y ffordd rŷm ni’n symud o gwmpas y ddaear yma, y ffordd rŷm ni’n adeiladu a chynhesu ein cartrefi, yn defnyddio’n hadnoddau naturiol. Oherwydd mae’r trajectory rŷm ni arni o ran cynhesu byd eang yn golygu os na fyddwn ni’n newid ein ffordd, mi fydd yr oblygiadau’n niweidiol ac yn eithafol—nid dim ond mwy o lifogydd, ond gwladwriaethau cyfan yn mynd o dan ddŵr oherwydd codiad yn lefel y môr; nid dim ond mwy o sychder, ond mwy o newyn ar lefel ryngwladol yn dod yn ei sgil; diflaniad eang o rywogaethau ac amgylchedd llawer mwy gelyniaethus i fywyd ar y ddaear yma.
Nawr, casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i Lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd Celsius. Nid oes dim amheuaeth erbyn hyn, yn fy marn i, mai hon yw’r her fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Rŷm ni oll yn cofio, wrth gwrs, y trafod yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis yn 2015 fod yn rhaid cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2 radd Celsius ac y dylid ymdrechu i gadw e o dan 1.5 gradd. Wel, yr hyn mae adroddiad yr IPCC yn ei ddweud wrthym ni bellach yw bod cynhesu byd-eang yn debygol o gyrraedd 1.5 gradd Celsius rhwng 2030 a 2052 os yw’n dal i gynyddu ar y raddfa bresennol. Byddai pob elfen leiaf o gynhesu y tu hwnt i hynny, wedyn, wrth gwrs, yn dod â risg o newidiadau hirdymor a di-droi nôl, gydag ecosystemau cyfan yn cael eu colli.
Nawr, yr hyn nad yw’r adroddiad yma’n ei wneud i’r un graddau, wrth gwrs, yw amlinellu’n union beth sydd angen i bob un ohonom ni geisio ei gyflawni er mwyn gwireddu’r newid sydd ei angen—mater i gymdeithas yn ehangach yw hynny. Mae gennym ni, fel gwleidyddion, wrth gwrs, rôl allweddol wrth greu’r amgylchedd arall hwnnw—yr amgylchedd bolisi a’r amgylchedd gyllido a fydd yn ysgogi a hwyluso llawer o’r newid sydd angen ei weld.
Mae ein cynnig ni heddiw yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fan hyn yn y Cynulliad wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru’n debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Diben y cynnig yma, felly, yw i alw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau breision y byddan nhw’n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad yr IPCC. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn achub ar y cyfle i amlinellu ambell i beth rŷm ni fel plaid yn teimlo sydd eu hangen—dim y cyfan, wrth gwrs; yn bell o hynny—fel rhan o’r trawsnewidiad sydd ei angen yn wyneb yr heriau newid hinsawdd yma sydd o’n blaenau ni. Maen nhw’n cynnwys, wrth gwrs, gweithredu o ran ynni, gweithredu o ran trafnidiaeth, tai a rhai o’r sectorau sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau carbon.
Nawr, mae angen taclo ynni o ddau gyfeiriad, wrth gwrs—yn gyntaf, lleihau’r defnydd o ynni ac yna cynyddu’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Fe wnaeth pwyllgor cynaliadwyedd y Cynulliad diweddaf, yn ei adroddiad 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', alw am greu targedau blynyddol i leihau'r galw am ynni, ac mae'n siomedig nad yw hynny wedi derbyn ymateb positif. Fe wnaeth hefyd alw am fwy o help i bobl ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, ac fe wnaf i ymhelaethu ychydig ar hynny mewn munud.
Rydw i wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen, wrth gwrs, am sut mae Plaid Cymru am weld sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, a fyddai'n cynorthwyo â'n nod ni o sicrhau bod cymaint o drydan ag sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Nawr, mae hynny'n uchelgeisiol, ond mae hynny hefyd yn bosib. Mae gwledydd eraill yn symud yn llawer cynt na ni ar yr agenda yma. Mae'r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo erbyn 2050 i sicrhau bod 80 y cant o'u holl ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ac, yn fwy na hynny, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi'n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant, ac yn creu miliynau o swyddi, ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae'n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni. Mae'n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Wrwgwái, sydd â phoblogaeth ddim yn annhebyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn cyfnod o lai na 10 mlynedd, fod 95 y cant o'i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan, wrth gwrs, leihau ei hôl-droed carbon, ond hefyd lleihau biliau i'w phobl ar yr un pryd. Felly, maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweiniad penderfynol, fod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel.
Rydw i'n credu'n gryf hefyd mewn rhoi'r gymuned yng nghalon polisi ynni. Rydw i wedi siarad sawl tro am yr angen i symud i ffwrdd o'r model hub and spoke yma o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr sydd wedi'u canoli ac yna trosglwyddo'r ynni yna ar hyd a lled y wlad drwy grid sy'n hynafol, yn aneffeithlon ac yn gostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda'r ynni yn cael ei gynhyrchu yn nes at le mae e'n cael ei ddefnyddio—yn y gymuned gan y gymuned—a rhwydweithiau sy'n fwy effeithlon, yn cynnig mwy o gydnerthedd, wrth gwrs, sy'n llai hagr ar y dirwedd hefyd, sydd yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn gyson yn y Siambr yma, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw.
Nawr, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn un peth, ond, fel soniais i yn gynharach, mae angen lleihau defnydd ynni hefyd, ac mae hynny'n greiddiol i'r dasg sydd o'n blaenau ni. A gydag aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o'u costau ynni ar wresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref, yna mae cryfhau safonau effeithlonrwydd ynni tai newydd, a gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni drwy ôl-ffitio, yn gwbl, gwbl allweddol. Mi wnes i ymhelaethu ychydig ar hyn yn y ddadl flaenorol, felly fe wnaf i ddim ailadrodd. Ond tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn cyfrannu, yn sicr, i'r dasg yma, cyfraniadau cymharol fychan ydyn nhw. Yn sicr, nid ydyn nhw nunlle yn agos at faint yr her sydd yn ein hwynebu ni, a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, fel roeddwn i'n esbonio gynnau, fod yna ymrwymiad wedi bod ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnoedd dros ddau ddegawd i gwrdd â'r her yna drwy gomisiwn is-adeiledd cenedlaethol i Gymru. Dyna lefel yr uchelgais sydd ei hangen.
Mae'r cynnig yn cyfeirio at waharddiad ffracio. Rydw i'n cofio, yn fy nghyfnod blaenorol fel llefarydd y blaid ar y maes yma, mewn neges fideo, yn dweud bod angen i ddau beth ddigwydd i ni fedru gwireddu gwaharddiad go iawn ar ffracio yng Nghymru: yn gyntaf, bod y pwerau yn cael eu datganoli i ganiatáu i ni wneud hynny, ac, yn ail, bod y Cynulliad hwn yn ewyllysio i hynny ddigwydd. Wel, mae'r darnau hynny bellach yn eu lle, ac er gwaethaf moratoriwm nad oedd yn foratoriwm—ac mi ddywedaf i hynny tra byddaf i; rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn anghytuno, ond nid oedd e'n foratoriwm—mae hi yn dda gweld y Llywodraeth nawr yn symud, gobeithio, i'r cyfeiriad o gael gwaharddiad go iawn yn y pen draw.
Mae trafnidiaeth yn faes y gad pwysig arall yn y frwydr i leihau allyriadau carbon, ac, os oes un achos eiconig a fydd yn brawf litmws i'r Llywodraeth yma, yna'r penderfyniad ynglŷn â llwybr du'r M4 fydd hwnnw. Nawr, mae un o'm cyd-Aelodau yn mynd i ymhelaethu ar hyn mewn munud, ond mi fyddai palu ymlaen gyda'r llwybr du yn golygu mwy o gerbydau ar ein ffyrdd a llai o debygrwydd y bydd Cymru yn cwrdd â'i thargedau newid hinsawdd. Fe gawsom ni gadarnhad ddoe gan arweinydd y tŷ y byddai'r bleidlais yn un ymrwymol, ond, wrth gwrs, beth mae nifer o bobl, byddwn i'n tybio, ar feinciau cefn y Llywodraeth eisiau gwybod yw a fydd honno yn bleidlais rydd, oherwydd mi fyddai penderfyniad gan y Cynulliad yma i beidio â bwrw ymlaen gyda'r llwybr du ac i fuddsoddi mewn opsiynau amgen yn ddatganiad clir ein bod ni'n gwbl o ddifri ynglŷn â rôl Cymru wrth daclo allyriadau a newid hinsawdd. A dyna'r neges hefyd, wrth gwrs, a fyddai'n cael ei hanfon yng nghymal 6 ein cynnig ni, sef bod Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dod yn rhan o'r symudiad byd-eang i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Byddai hynny'n arwydd o’r cydgyfrifoldeb sydd gennym ni oll i daclo newid hinsawdd.
Fe wnaf i gloi am y tro jest drwy wneud un pwynt olaf. Rŷch chi'n gwybod, yn y gorffennol, fod pobl wedi cysylltu lleihau allyriadau gyda, rywsut, gorfod cyfyngu ar dwf a chynhyrchiant—ei fod e'n rhwystr i dwf busnes. Wel, ystyriwch yr ystadegyn yma: yn y cyfnod y mae Prydain wedi lleihau allyriadau 40 y cant, mae cynhyrchiant a thwf—productivity and growth—wedi codi 70 y cant. Nawr, mae hynny'n dangos yn glir y gallwn ni ddatgysylltu twf oddi ar allyriadau. Nid yw un yn gorfod mynd law yn llaw gyda'r llall rhagor, fel yr oedd, wrth gwrs, flynyddoedd yn ôl.
Mae'r OECD wedi dweud y bydd gweithredu ar newid hinsawdd yn hwb i dwf economaidd, nid yn unig wrth osgoi effeithiau newid hinsawdd, ac mae yna gost sylweddol i'r effeithiau hynny, wrth gwrs, ond hefyd wrth fuddsoddi mewn technolegau glân, effeithlon, arloesol, newydd. Meddyliwch am ôl-ffitio tai fel un enghraifft: creu swyddi ac arbedion economaidd ar un llaw; creu manteision cymdeithasol ar law arall, drwy daclo tlodi tanwydd; a chreu manteision amgylcheddol amlwg wedyn drwy leihau allyriadau. Mi fydd arloesedd a thechnoleg yn ein helpu ni i fynd ymhellach ac ymhellach yn y blynyddoedd i ddod wrth i ddatblygiadau newydd gyflymu'r broses honno.
Felly, tra mai newid hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw—her sy'n dod â bygythiadau difrifol eithriadol—er mwyn peidio â gorffen ar nodyn rhy negyddol a chalon drom, mae angen inni gofio bod taclo newid hinsawdd yn dod â chyfleoedd gydag ef hefyd, nid dim ond y cyfleoedd amlwg amgylcheddol, ond rhai economaidd a chymdeithasol. Ond, yr hyn y mae'r cynnig yma yn ei gwestiynu mewn difri yw: i ba raddau yr ydym yn barod i wynebu'r her honno, ac i ba raddau yr ydym yn barod i afael yn y cyfleoedd hynny? Mae'r neges yn glir gan yr IPCC. Nid ydym ni ddim yn pasio'r prawf ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i Gymru godi ei gêm, neu ein plant ni, wrth gwrs, fydd yn talu'r pris.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig gwelliannau 1 a 4, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Julie James
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.
Gwelliant 4—Julie James
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:
a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.
b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.
c) cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 per cent mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.
d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.
e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd
f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae fy ngwelliant yn syml iawn, sef bod Cynulliad Cymru:
'Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.'
Cyflwynais y gwelliant oherwydd fy mod eisiau rhoi pleidlais i bob Aelod o'r Cynulliad hwn dros neu yn erbyn pŵer niwclear. Hefyd, rwyf am i'r cyhoedd allu dwyn pob un ohonom i gyfrif ar fater pŵer niwclear. Rwyf bob amser wedi bod yn wrth-niwclear, ond mae ymgyrch mwd niwclear Hinkley wedi fy ngwneud yn ymgyrchydd gwrth-niwclear bellach.
Gan wisgo fy het sofran, buaswn yn dweud bod Wylfa B yn anfforddiadwy i Gymru sofran yn y dyfodol. Roeddwn yn falch o groesawu Cyfeillion y Ddaear Japan yma yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod a siarad â rhywun o Fukushima. Ni allent ddeall pam y mae Cymru'n derbyn technoleg ynni niwclear gan Hitachi yn Japan. Roeddent yn siarad am yr allfudo mawr yn ystod argyfwng Fukushima ar ddiwrnod y ddamwain, ac yn nodi y byddai'n amhosibl i 80,000 o bobl adael Ynys Môn gyda dim ond dwy bont. Felly, y cwestiwn yw: os yw Wylfa B yn mynd rhagddo, beth fyddai'r cynllun dianc pe bai'r gwaethaf yn digwydd? Y realiti yw na allai'r rhan fwyaf o bobl ddianc.
Ar y teledu nos Lun, cyfaddefodd un o'r ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth Lafur y byddai risg o ddatblygu gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn. Ond dywedodd na ddylem sôn am y perygl hwnnw er bod gwir angen inni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae'r gwastraff yn sgil pŵer niwclear hefyd yn achosi problemau enfawr i genedlaethau'r dyfodol, ac mae pŵer niwclear hefyd yn peri risgiau i iechyd ar hyn o bryd.
Yn 2003, gwelodd ymchwil a gomisiynwyd gan Swyddfa Ffederal yr Almaen ar gyfer Diogelwch Ymbelydrol fod pobl sy'n byw o fewn 5 km i adweithyddion niwclear yn yr Almaen yn wynebu cynnydd yn y gymhareb o 1.61 ar gyfer pob math o ganser, a chynnydd yn y gymhareb o 2.19 ar gyfer lewcemia ymhlith plant yn gyffredinol. Nawr, dylai'r Aelodau yma fod yn ymwybodol o'r clwstwr lewcemia o amgylch Hinkley Point, gyda'r dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Athro Barnham. Wel, yn yr Almaen, caeodd y Llywodraeth wyth adweithydd niwclear ac maent yn cael gwared ar yr holl adweithyddion niwclear fesul cam erbyn 2022.
Nid yw niwclear yn ecogyfeillgar. Mae'n cynnwys cost garbon uwch nag ar gyfer ynni adnewyddadwy, ond mae'r gost yn digwydd ar ddechrau'r broses. Yn ogystal, mae'r Oxford Research Group yn rhagweld y bydd pob gorsaf niwclear erbyn 2050 yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd wedi'u pweru â nwy, wrth i safon mwyn wraniwm ostwng. Nawr mae gennym adnoddau naturiol gwych yng Nghymru: gwynt, dŵr, morlin. Mae pŵer niwclear yn tynnu sylw oddi ar yr hyn y dylem ei wneud, sef datblygu ynni adnewyddadwy. Deddfodd Senedd sofran Gwlad yr Iâ i ddefnyddio eu hadnoddau naturiol er mwyn cynhyrchu ynni. A gallai senedd sofran yng Nghymru yn y dyfodol wneud yr un peth. Gallai Cymru fod yn gwbl gynaliadwy gydag ynni adnewyddadwy, a phobl Cymru ddylai benderfynu ar bolisi ynni yn y wlad hon.
I fynd yn ôl at y prif bwynt, mae fy ngwelliant yn dweud bod Cynulliad Cymru:
'Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.'
Beth yw eich barn chi?
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar?
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
5. yn croesawu Papur Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:
a) gwneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral gyntaf y DU;
b) gosod offer monitro llygredd aer ym mhob ysgol a meithrinfa yng Nghymru;
c) cyflwyno menter cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu hynni eu hunain;
d) ymrwymo i darged o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030;
e) cymell ac annog toeau gwyrdd ar ddatblygiadau masnachol yng Nghymru; a
f) cyflwyno cerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Ac a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru, a Llyr Gruffydd yn benodol, am gyflwyno'r cynnig heddiw? Credaf ei bod yn ddadl bwysig iawn, ac rydym wedi clywed dau gyfraniad angerddol iawn a bod yn deg. Ac nid yw'n syndod, o ystyried yr heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu o ran tystiolaeth wyddonol ddiamheuol. Mae Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi gweld bod y cynnydd yn parhau i fod ymhell o dargedau presennol Llywodraeth Cymru i leihau lefelau allyriadau i 40 y cant islaw eu lefel yn 1990 erbyn 2020. Ac mae rhesymau am hyn; nid yw'n rhywbeth y gallwn ymroi'n unig i golbio'r Llywodraeth yn ei gylch, ac mae baich trwm ar Gymru o'i gorffennol diwydiannol blaenorol, ac mae gennym gyfran uchel iawn o'r diwydiant trwm sy'n weddill yn y Deyrnas Unedig. Ond nid yw hynny'n esgus dros beidio â gweithredu ychwaith. Felly, credaf fod angen inni sicrhau bod y ddadl hon yn creu rhywfaint o egni, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw, ac nad yw'n ddifflach, ond ein bod yn cyflwyno ein hatebion amgen ein hunain lle credwn fod y Llywodraeth yn ddiffygiol, a dyna rwy'n bwriadu ei wneud y prynhawn yma.
Mae llawer yng nghynnig Plaid Cymru y gallwn gytuno ag ef. Nid yw pwyntiau 1 i 4 yn peri unrhyw anhawster imi, ond nid wyf yn cytuno â phopeth ym mhwynt 5. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n syndod i chi, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant. Os caf edrych ar rai manylion, o ran yr M4, credaf fod angen inni ddisgwyl am adroddiad yr ymchwiliad ar ba lwybr y dylid ei ddewis, os ydym eisiau cynllun ffordd enfawr yno. Ac mae hwn yn gwbl briodol yn faes dadleuol, a dylem gael dadl drylwyr iawn arno. Ond efallai y gellid ei gyfiawnhau, ac yn sicr mae angen inni gadw meddwl agored ar y mater.
O ran ynni niwclear, gwelliant Neil yn hytrach na chynnig Plaid Cymru yw hwn yn amlwg. Ni chredwn y gallwch ddweud yn syml nad yw niwclear yn rhan o'r gymysgedd. Credwn ei fod, oherwydd mae ei angen yn enwedig yn ei rôl wrth gefn i ffynonellau adnewyddadwy cynaliadwy allu bod yno, oherwydd maent yn amrywio ac mae arnom angen darpariaeth wrth gefn gyson o'r fath ar gyfer tua 20 y cant, yn y dyfodol y gellir ei ragweld beth bynnag, hyd nes y cawn well ffordd o'i ddarparu. Felly, am y rheswm hwnnw, nid ydym yn cefnogi eich gwelliant.
Yna, ar ffracio, rydym yn cydnabod bod yna bryderon gwyddonol a thechnegol y gellir eu cyfiawnhau ac y byddai'n amlwg angen rhoi sylw iddynt cyn y gallai unrhyw gynllun fynd rhagddo. Rhaid imi ddweud fod yna beth perygl y cawn ein perswadio i roi'r gorau i'r ymgyrch dros ynni adnewyddadwy wrth weld tanwyddau ffosil glanach. Mae'n rhaid wynebu hynny eto—mae'n her go iawn—ond ni fuaswn yn ei ddileu'n gyfan gwbl o'r cymysgedd. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi mynychu cyfarfod Prifysgol Abertawe, a gynhaliwyd yma yn y Senedd fis diwethaf, a edrychai ar ffracio di-ddŵr a'i fanteision, ac yn wir, credaf fod Helen Mary Jones wedi noddi'r digwyddiad hwnnw, er yn fwy mewn rôl flaenorol, os gallaf fod yn gynnil yn ei disgrifio felly. Felly, gadewch i ni beidio â dweud 'na' ar ei ben. Gadewch inni weithredu ar sail y dystiolaeth. Dyna rydym yn annog pobl i'w wneud, does bosib, mewn perthynas â newid hinsawdd.
Felly, byddem yn dadlau o blaid amrywiaeth eang o fesurau i leihau ein hôl troed carbon yn gyflym, ac rydym wedi pecynnu rhai o'r pethau rydym wedi'u pwysleisio yn ein strategaeth ar gyfer adfywio trefol, 'Dinasoedd Byw', ac yn wir, dyna yw swmp a sylwedd ein gwelliant 3, oherwydd credwn fod angen inni wneud cynnydd cyflym iawn. Clywsom ein bod wedi cael cynhesu byd-eang o un radd eisoes, ac os na wnawn ddim byddwn yn gweld cynhesu o dros dair gradd. Fel y dywed Martin Wolf yn y Financial Times heddiw—ac mae'n rhywbeth pan ddaw peth o'r newyddiaduraeth orau o'r prif bapur busnes—mae'n dweud: beth fydd ein disgynyddion yn ei feddwl? Wel, maent yn debygol o feddwl rhywbeth yn debyg i'r hyn y meddyliwn ni am ein cyndeidiau a eisteddai'n ôl yn ddigyffro a gwneud dim byd ynglŷn â chaethwasiaeth. Bydd yn cael ei weld mewn dimensiwn moesol o'r fath, felly rhaid inni fynd ati a gweithredu'n gyflym.
Un o'r pethau yr hoffem ei weld yw Caerdydd yn dod yn ddinas gyntaf y DU i fod yn niwtral o ran carbon. Mae amryw o ddinasoedd Ewropeaidd yn anelu tuag at y nod hwn, a rhai ohonynt yn gobeithio'i gyflawni mor fuan â 2025. Felly, dyna un peth penodol. Byddem yn cynyddu'r—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os oes gennyf amser. Rwy'n sylweddoli bod y Dirprwy Lywydd yn llawer mwy goddefgar nag y bûm innau erioed yn y materion hyn.
Iawn, parhewch. Yn gyflym iawn. [Chwerthin.] Bydd hynny'n gwneud yn siŵr y byddwch.
Rydych wedi gwneud achos gwych dros ynni adnewyddadwy, felly a ydych chi'n gresynu at y modd y cafodd y Ceidwadwyr wared ar y tariff cyflenwi trydan pan ddaethant i rym gyntaf?
Sylwaf fod ynni adnewyddadwy bellach yn dod yn ddewis y farchnad, a dyna'n sicr y dylem fod yn anelu tuag ato, ac i gyflawni hynny y lluniwyd y cymhellion hyn.
Roeddwn yn mynd i orffen gyda'r pwynt fod arnom angen mwy o goetir a choedwigoedd, gan gynnwys strategaeth ar gyfer gorchudd canopi coed trefol o 20 y cant, a rhaid i deithio llesol, unwaith eto, fod yn elfen allweddol—teithio llesol sy'n ein cynnwys ni oll yn unigol. Dyna ran fawr o'r ymrwymiad. Ond er nad ydym yn mynd i allu cefnogi cynnig Plaid Cymru yn llawn, rwy'n credu bod y pwysau y tu ôl iddo am gonsensws gwleidyddol pwerus yng Nghymru i'n helpu i leihau newid hinsawdd mewn ffordd radical yn un sydd i'w groesawu'n fawr.
Credaf mai un o'r problemau mwyaf ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yw sut y gall Llywodraeth Cymru ei chysoni gyda'i huchelgais i gyflawni gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau carbon o gerbydau erbyn 2030. Os yw'n bwrw rhagddi ar ffordd liniaru'r M4, byddai'n arwain at gynnydd o rywbeth tebyg i 42,000 o gerbydau'r dydd. Felly, nid wyf yn deall sut yn y byd y gallem gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a'n targedau yn hynny o beth pe baem yn bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Gallai leihau tagfeydd dros dro o gwmpas Casnewydd wedi iddi gael ei hadeiladu—byddai'n rhaid iddynt ddygymod â llawer iawn o dagfeydd yn y cyfamser—ond byddai'n cynyddu'r tagfeydd yng Nghaerdydd ac ymhellach i lawr yr M4 yn aruthrol. Nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw un gyfiawnhau cynyddu tagfeydd yng Nghaerdydd pan fo gennym naw o ysgolion a nifer o feithrinfeydd heb eu henwi gyda lefelau llygredd aer sy'n anghyfreithlon eisoes, ac mae pawb ohonom yn gwybod nad yw'r arwyddion yn dda o ran iechyd, yn enwedig i ysgyfaint ifanc. Felly, rwy'n teimlo'n gryf mai ateb ugeinfed ganrif yw ffordd liniaru'r M4, a grybwyllwyd yn gyntaf yn 1991, ac nid yw'n addas ar gyfer y problemau unfed ganrif ar hugain sy'n ein hwynebu yn awr. Cafodd ei gwyntyllu ar adeg pan nad oeddem mor ymwybodol ag rydym bellach o'r newid cyflym a difrifol yn ein hinsawdd, ac felly credaf fod angen inni feddwl eto am hynny.
Ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 2. Nid yw'r polisi niwclear wedi'i ddatganoli, felly nid oes ots mawr iawn beth yw safbwynt y Cynulliad ar y mater, gan mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu ar hyn. Yn amlwg, credaf y dylem fod yn defnyddio—. Rwy'n anghytuno â David Melding ar hyn, y dylem fod yn defnyddio ynni niwclear fel ateb wrth gefn ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rwy'n teimlo mai nwy ddylai chwarae'r rhan honno, fel darpariaeth wrth gefn, ac mae'n fy mhoeni braidd fod nwy'n cael ei losgi ar y lefel y mae'n cael ei losgi, oherwydd yn amlwg, mae'n adnodd y mae pen draw iddo a dylem fod yn ei ddefnyddio'n fwy darbodus nag a wnawn ar hyn o bryd.
Mae gennyf lawer i'w ddweud wrth welliant 3. Credaf fod y cynigion a ddrafftiwyd gan David Melding, ac uchelgais David Melding ar gyfer gwneud ein prifddinas yn brifddinas garbon niwtral gyntaf y DU, yn atyniadol iawn. Mae'r syniad o osod monitorau mesur llygredd aer yn ein holl ysgolion a meithrinfeydd yn un y teimlaf y dylai Llywodraeth Cymru ei groesawu.
Yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i'r syniad o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030, oherwydd, yn amlwg, dyna un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â'r llygredd aer ofnadwy sydd gennym. Ac yn amlwg, dylem fod yn cymell pobl i roi toeau gwyrdd ar unrhyw adeiladau newydd neu unrhyw ddatblygiad newydd, neu unrhyw do a adnewyddir. Ond er mwyn peidio â gwneud y prif chwip yn bryderus, yn anffodus, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliant 3. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylem estyn allan ar y cyd at y syniadau rhagorol y mae David Melding wedi'u hargymell.
Credaf fod gwelliant 4 yn dangos llawer o syniadau posibl, yn amlwg, ond mae'r rhain yn syniadau y dylem fod yn bwrw ymlaen â hwy ers peth amser bellach. Y ffaith nad yw'r adolygiad o Ran L y rheoliadau adeiladu ond wedi cyrraedd y cam ymgynghori, a bod pobl yn parhau i adeiladu'r holl gartrefi hyn nad ydynt wedi'u cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus, heb lwybrau teithio llesol wedi'u cynnwys, ac nad oes llwybrau bysiau wedi'u cynnwys ynddynt hyd yn oed. Mae datblygiad Llys-faen a hen ddatblygiad Llanedern ar gyrion fy etholaeth yn enghreifftiau o hyn, lle mae'n mynd i gynyddu'r tagfeydd yn fy etholaeth yn aruthrol. Ac ar yr un pryd, mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cau llwybrau cefn, sy'n lleoedd gwych i bobl seiclo a cherdded ynddynt, oddi ar ffyrdd prysur iawn. Mae'n ymddangos bod hyn yn mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir.
Felly, hoffwn weld cynigion gwirionedd gynhwysfawr ar gyfer ymdrin â thagfeydd o gwmpas Casnewydd trwy drafnidiaeth gyhoeddus lawer gwell, a dyna'r mathau o bethau yr hoffwn eu gweld gan ein Llywodraeth.
Mae yna sawl trywydd y buaswn i'n gallu mynd ar ei ôl o heddiw yma. Roedd sylwadau Llyr Gruffydd ynglŷn â'r cyfleon economaidd a fyddai'n dod o ddatblygu diwydiannau gwyrdd a buddsoddi mewn 'retro-osod' offer arbed ynni mewn tai, ac ati, yn rhywbeth sy'n apelio ataf i, ac yn rhywbeth y gwnes i siarad amdano fo pan oeddwn i'n dal y rôl economi yn y Cynulliad diwethaf, ond mi ydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar drafnidiaeth yn benodol.
Mi ddywedodd pwyllgor newid hinsawdd y Cynulliad yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu'r her benodol yma sydd yn deillio o nifer o allyrwyr mawr o garbon deuocsid yng Nghymru. Felly, meddai'r pwyllgor,
'mae angen gwneud y mwyaf o effaith ymyriadau i leihau allyriadau mewn meysydd eraill, megis trafnidiaeth'.
Ac mae o hefyd yn enwi tai. Hynny ydy, mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth yn rhywbeth rydym ni'n gallu ei wneud yma yn y byd datganoledig sydd gennym ni, felly mae angen sicrhau ein bod ni’n gwthio i’r eithaf y potensial sydd o’n blaenau ni. Mi oedd trafnidiaeth, yn 2014, yn cyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru, ond dros 21 y cant o’r allyriadau o fewn cymhwysedd datganoledig. Hynny ydy, y pethau rydym ni’n gallu gwneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae trafnidiaeth yn un o’r rheini.
Mae adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig ar ddad-garboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru yn dweud bod Cymru’n fwy dibynnol ar y car nag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig. Ac mae hynny’n datgan yn glir fod yn rhaid inni wneud rhywbeth am hyn ac mae’n rhaid inni chwilio am y newid modal yma. Rydym ni’n gwneud llawer o siarad amdano fo, ond yn methu ag ennill digon o dir arno fo mewn gwirionedd o ran mynd i’r afael â’r broblem rydym ni’n ceisio ei thaclo—yn y modd mwyaf sylfaenol, cael pobl allan o’u ceir ac ar eu beiciau neu ar eu traed. Mae gennym ni Ddeddf teithio llesol, ond nid ydym yn gweld y buddsoddiad yn mynd i mewn i gefnogi’r ddeddfwriaeth yna y dylem ni fod yn ei weld. Rydym ni’n gweld mai tua £10 y pen y flwyddyn sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar deithio llesol, lle mae pwyllgor economi’r Cynulliad wedi argymell gwariant o rhwng £17 ac £20 y pen y flwyddyn. Oes, mae’n rhaid i bobl gael eu perswadio i newid eu diwylliant eu hunain o ran y ffordd maen nhw’n mynd o A i B, ond gadewch inni roi’r anogaeth yna drwy fuddsoddi yn yr isadeiledd sydd yn gwneud hynny gymaint yn haws. Nid oes ond angen inni edrych ar y system beiciau newydd Nextbike yng Nghaerdydd. Mae buddsoddiad wedi mynd i mewn yn y man yna, ac mae pobl yn defnyddio’r beiciau yna, a minnau yn eu plith nhw. Mae yna synnwyr yma yng Nghaerdydd fod yna, go iawn, deimlad o newid tuag at deithio llesol. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd ar draws Cymru, nid dim ond yn ein prifddinas ni.
Mae’n rhaid inni symud pobl i fysys. Mae’r un adroddiad y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach gan y Sefydliad Materion Cymreig yn adrodd bod gwasanaethau bysys yng Nghymru wedi bod mewn dirywiad difrifol dros dymor hir. Mae’n rhaid inni wyrdroi hyn. Rydym ni’n gwybod am y llefydd lle rydym ni angen buddsoddi mewn rheilffyrdd. Mae'n gywilydd bod Llywodraeth Prydain wedi peidio â buddsoddi a dim ond wedi trydaneiddio’r rheilffordd ar draws y de. Mae’n gywilydd nad ydy trydaneiddio ar draws y gogledd hyd yn oed ar yr agenda, mewn difrif. Mi ddylwn ni fod yn siarad o ddifrif, bob un ohonom ni, fel rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei wneud, am wneud y cysylltiad rheilffordd yna i fyny’r gorllewin—nid yn unig o Gaerfyrddin i Aberystwyth, ond wedyn o Aberystwyth drwodd i Fangor. Ydyn, mi ydym ni eisiau agor y rheilffordd sydd ar draws Ynys Môn. Hynny ydy, mae’r prosiectau yma i gyd yno ond inni gael yr uchelgais i fynd ar eu holau nhw. Os edrychwch ar—ac roeddem ni’n trafod hyn mewn cwestiynau yn gynharach yma—ar y £100 biliwn sy’n cael ei wario ar HS2 yn Lloegr a meddwl beth y gallem ni ei wneud am gyfran fechan iawn, iawn, iawn o’r cyfanswm yna.
Mi gyfeiriaf i’n sydyn at yr M4. Rydym ni’n cytuno mai gwastraff a denu pobl i ddefnyddio’u ceir yn fwy ydy mynd am y llwybr du. Oes, mae eisiau ateb ar gyfer y de-ddwyrain, rwy’n cydnabod hynny, ac mae’n rhaid inni fod yn glyfar yn y ffordd rydym ni’n ateb y pos yna o gwmpas y twneli Bryn-glas.
Yn fyr, gellir cymhwyso'r hyn a briodolwch i'r llwybr du i'r llwybr glas hefyd, ac rydych yn cefnogi hwnnw. A fyddech yn barod i ailystyried eich safbwynt ar hynny?
Yr hyn a ddywedais—nid wyf wedi edrych eto ar hyn ers cael y briff yn ôl, ond yr hyn a ddywedais yn y gorffennol, ac rwy'n ei ddweud eto, yw bod angen inni edrych ar atebion posibl eraill ar gyfer y broblem sydd gennym yn y de-ddwyrain, gan gynnwys rhywbeth sy'n seiliedig ar y llwybr glas o bosibl. Nid wedi ymrwymo i'r llwybr glas fel yr ateb perffaith ar gyfer datrys y broblem sydd gennym. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn fwy na dim yw symud pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond rwy'n cydnabod bod yna broblem gyda ffyrdd hefyd.
A hefyd wrth orffen, gadewch i mi ddweud bod rhaid inni gyfaddef, yn enwedig yn y Gymru wledig, y bydd y car bob amser yn bwysig iawn i unigolion a theuluoedd. Dyna pam rwy'n treulio cymaint o amser ac yn ymdrechu cymaint ag y gallaf i hyrwyddo cerbydau trydan. Dyna pam yr enillasom £2 filiwn o gyllid drwy drafodaethau ar y gyllideb i roi hwb cychwynnol i fuddsoddiad mewn rhwydwaith gwefru ledled Cymru. Felly gadewch i ni wneud y newid hwnnw a buddsoddi mewn hydrogen hefyd. Rwy'n tybio nad oes gennyf amser i dderbyn ymyriad—
Na, ni chewch ail ymyriad pan fo'r cloc yn goch. Mae'n ddrwg gennyf. Parhewch.
Mae'n ddrwg gennyf, buaswn wedi gwneud.
Gadewch inni fod yn greadigol a gadewch i ni ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael at ein defnydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein rhan yng Nghymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Ateb syml i Neil McEvoy: ymholltiad niwclear, na, ymasiad niwclear, ie. Ac rwy'n credu fy mod yn dal i gefnogi gwneud cynnydd pellach ar droi hydrogen yn ynni trwy ymasiad niwclear.
Ond rwy'n cefnogi'r gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru yn llwyr. Gallwn fod o ddifrif ynglŷn â newid hinsawdd a cheisio atal tymheredd y byd rhag codi, neu gallwn gefnogi ffracio. Ni allwn wneud y ddau. Ffracio: rydych yn drilio i mewn i'r ddaear, caiff cymysgedd dŵr dan bwysedd uchel ei anelu at y graig i ryddhau'r nwy y tu mewn; rydych yn gyrru dŵr, tywod a chemegau i mewn i'r graig ar wasgedd uchel, a gallwch ei wneud yn llorweddol neu'n fertigol.
Mewn byd sy'n brin o ddŵr glân, a yw ffracio'n syniad da? Yn yr UDA, gwelodd Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd ganolrif o 14 o gemegion ar gyfer pob sampl a gymerodd. Y mwyaf cyffredin oedd methanol, asid hydroclorig a distylladau petrolewm ysgafn wedi'u trin â dŵr. Halogiad dŵr yw un o'r pryderon amgylcheddol mwyaf wedi bod, a lle digwyddodd rhai o'r digwyddiadau mwyaf adnabyddus. Daeth ymchwiliad gan Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr UDA i'r casgliad yn 2016 fod ffracio wedi niweidio cyflenwadau dŵr yfed mewn rhai achosion. A yw honno'n risg rydym yn barod i'w chymryd?
Testun pryder mawr arall yw daeargrynfeydd a achosir gan hollti hydrolig. Er bod y ddau ddaeargryn yn 2011 a arweiniodd at foratoriwm y DU ar ffracio wedi'u graddio'n rhai bach ar y raddfa Richter, mae'r Unol Daleithiau wedi profi rhai llawer cryfach. Mae arbenigwyr yn Oklahoma wedi nodi gwerth mil o flynyddoedd o ddaeargrynfeydd mewn dwy flynedd oherwydd ffracio yno. A yw hon yn risg rydym am ei chymryd i bobl Cymru a'n gwlad? Mae ganddynt sefyllfa yn etholaeth Rebecca Evans lle mae pobl wedi bod yn ystyried ffracio yn yr ardal honno. Mae fy etholwyr i, yn ogystal â'i rhai hi yn wrthwynebus iawn i ffracio ddigwydd yno. Ac os nad wyf eisiau iddo ddigwydd yn fy etholaeth i neu ger fy etholaeth i, nid wyf am iddo ddigwydd yn etholaeth rhywun arall neu'n agos at etholaeth rhywun arall.
Ar lwybr du yr M4, rwy'n sgeptig a allai gael ei berswadio. A yw'n gyd-ddigwyddiad fod gennym dagfeydd traffig lle ceir llawer o gyffyrdd yn agos at ei gilydd a dwy lôn ar yr M4? Pam fod problem draffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd? Dywedwyd wrthyf unwaith gan Weinidog yn Llywodraeth Cymru—nid y Gweinidog a fydd yn ateb—fod hynny'n digwydd oherwydd bod llawer o gerbydau'n defnyddio'r ffordd. Er bod y datganiad syml hwnnw'n amlwg yn gywir, mae gwir angen inni wybod rhwng pa leoedd y maent yn symud, pam eu bod yn defnyddio'r M4 , ac a oes dewisiadau eraill o ran y dull o deithio a'r llwybr y gellir ei ddefnyddio. Pam fod pobl, fel fi fy hun, wrth deithio i'r gorllewin o Gastell-nedd, wrth ddod o orllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr, yn mynd yr holl ffordd i lawr at yr M4 ac yn troi i'r dde, yn hytrach na mynd ar draws ffordd Blaenau'r Cymoedd? Ai oherwydd bod ein hoffer llywio â lloeren yn ein cyfeirio y ffordd honno? Mae hynny ynddo'i hun yn broblem. Gallech leihau nifer y bobl sy'n defnyddio'r M4 pe bai gennych lwybrau amgen, ac nid yw pobl yn defnyddio llwybrau amgen. Mae'r rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb.
Ar y llwybr glas, ni fydd yn gweithio. Yn gyffredinol, nid yw traffig yn gadael traffordd i fynd ar ffordd ddosbarthu. Beth y gellir ei wneud i leihau traffig ar adegau allweddol ar yr M4 o amgylch Casnewydd? A allai gwella'r arwyddion at lwybrau eraill helpu? A fydd creu ffordd newydd yn creu rhagor o draffig? Hyn heb edrych ar y difrod amgylcheddol a chost ei hadeiladu. Rydym wedi gweld yr M25, a oedd yn syniad gwych ac a oedd yn mynd i roi diwedd ar y problemau traffig o gwmpas de-ddwyrain Lloegr. Wel, nid wyf yn hollol siŵr fod hynny wedi gweithio. Rwy'n credu bod yr M25 yn aml yn cael ei disgrifio fel maes parcio mawr iawn.
Cyfrifir gwerth ffordd yn ôl yr amser a arbedir yr ystyrir ei fod yn gynhyrchiol. I lawer o bobl, gan fy nghynnwys i, os gadawaf 10 munud yn hwyrach yn y bore a dychwelyd adref 10 munud yn gynharach yn y nos, y cyfan y mae'n ei gyflawni yw 10 munud yn ychwanegol yn y gwely a 10 munud yn hwy yn darllen y papur newydd neu'n gwylio'r teledu. Mae'r ddau'n dda iawn i mi fel unigolyn, ond nid wyf yn siŵr eu bod yn gynhyrchiol i'n heconomi.
Rwyf wedi bod drwy fy marn ar ôl-osod tai yn fanwl iawn. Rwy'n credu mewn cryfhau'r rheoliadau adeiladu er mwyn cyflawni'r amcan o adeiladau bron yn ddi-ynni. Fel y dywedais yn fanwl iawn yn gynharach, mae'r rhan fwyaf o'r tai y bydd pobl yn byw ynddynt yn 2050 wedi'u hadeiladu yn barod. Mewn rhai ardaloedd, bydd mwy o bobl yn byw mewn tai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nag a fydd yn byw mewn tai o'r unfed ganrif ar hugain, felly mae'n rhaid inni ôl-osod. Edrychodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg ar ganlyniadau'r gystadleuaeth ôl-osod ar gyfer y dyfodol, a gafodd ei threfnu ar y cyd gan y bwrdd ac a hwylusodd y gwaith o ôl-osod mwy na 100 o dai ar draws y DU. Y nod oedd sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn gollyngiadau carbon deuocsid ym mhob eiddo a oedd yn rhan o'r rhaglen, a hybu cydweithio rhwng darparwyr tai, cynllunwyr, contractwyr ac ymchwilwyr, gan helpu i ysgogi cyfleoedd busnes newydd i ôl-osod y farchnad ar yr un pryd.
Credaf fod gwir angen inni gael dull cydgysylltiedig o weithredu, ac un o'r pethau pwysicaf yw i ba raddau y gallwn leihau allyriadau carbon, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni deithio llai yn y car, a hefyd rhaid inni gael tai di-garbon neu'n agos iawn at fod yn ddi-garbon.
Nid oes neb wedi siarad heddiw am y costau sy'n ymhlyg i bobl gyffredin yn sgil y mesurau y bydd eu hangen i geisio cyrraedd y targedau yn adroddiad yr IPCC. Yn 2015-16, gwyddom fod ardollau amgylcheddol, fel rhan o bolisïau gwrth-newid hinsawdd y Llywodraeth bron yn £5 biliwn, ac ar gyfer 2017-18, cododd mor uchel ag £11 biliwn, a rhagwelir y bydd yn codi i bron £14 biliwn erbyn 2022, gan ychwanegu dros £200 y flwyddyn i'r bil ynni ar gyfartaledd. Bydd hyn yn effeithio'n bennaf wrth gwrs ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed—y tlodion, y rhai sydd ar incwm isel. Felly, rhaid inni fod yn berffaith siŵr fod yr hyn a wnawn wrth fynd ar hyd y ffordd hon yn mynd i gynhyrchu'r canlyniadau sydd eu hangen, a dyna rwyf am roi sylw iddo yn gyntaf oll, oherwydd mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y gallwn lwyddo i leihau'r cynnydd tebygol yn y tymheredd i 1.5 gradd ac mai'r ffordd o gyflawni hynny yw drwy leihau allyriadau carbon deuocsid. Ond os edrychwn ar y dystiolaeth o arsylwadau yn y 100 mlynedd diwethaf, gallwn weld nad oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng cynnydd yn y lefelau carbon deuocsid a'r hyn sy'n digwydd yn yr atmosffer o ran tymheredd.
Rhwng 1850 a 2010, cyn belled ag y gallwn ei fesur, mae'r tymheredd byd-eang wedi codi 0.8 gradd canradd ar gyfartaledd, ac os edrychwn ar wahanol gyfnodau yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, byddwn yn gweld nad oes unrhyw gydberthynas o gwbl rhwng lefelau carbon deuocsid a thymheredd. Rhwng 1900 ac 1940, cododd y tymheredd byd-eang yn gyflym, ond cynnydd cymharol fach a gafwyd mewn carbon deuocsid. Yna, rhwng 1940 ac 1970, gostyngodd y tymheredd ychydig bach mewn gwirionedd, ond cafwyd cynnydd pendant mewn carbon deuocsid. Rhwng 1970 a 1990, cododd y tymheredd a charbon deuocsid gyda'i gilydd. A rhwng 1995 a 2015, mae'r tymheredd wedi lefelu, ac eto cafwyd cynnydd uwch nag erioed mewn carbon deuocsid. Nid oes neb wedi gallu esbonio'r saib. A'r rheswm pam na allant ei egluro yw mai modelau'n unig yw'r hyn y seiliwyd yr adroddiad arnynt: modelau'n seiliedig ar ddamcaniaethu ynghylch tymheredd yn y gorffennol ac ar ddamcaniaethu beth allai ddigwydd yn y dyfodol o dan amgylchiadau penodol ar sail gwybodaeth annigonol, gwybodaeth nad oes modd inni ei chasglu beth bynnag.
Mae'r data ei hun yn annibynadwy, yn gyntaf oll am y rheswm amlwg iawn fod 71 y cant o arwyneb y blaned yn ddŵr, lle nad oes unrhyw gyfleusterau ar gyfer mesur tymheredd, ac mae llawer o arwyneb y tir yn anhygyrch hefyd. Nid oedd gennym ddata lloeren dibynadwy tan 1978—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel—iawn, o'r gorau.
Teimlaf fod yn rhaid imi ymyrryd am eich bod yn torri'r ganrif ddiwethaf yn flociau 10 mlynedd, 15 mlynedd. Onid yw'n glir mai'r hyn sy'n digwydd yma yw tuedd sydd wedi bod yn eithaf clir am y 50 neu 60 mlynedd diwethaf? Ac rydych yn sôn am y cefnforoedd: mae cynhesu cefnforol yn rhan ganolog o'r dystiolaeth a welwn, sy'n profi bod newid hinsawdd yn digwydd a'i fod yn cael effaith drychinebus a niweidiol ar y byd o'n cwmpas.
Na, rwy'n anghytuno'n sylfaenol â hynny. Rwy'n darllen ffigurau'r sefydliad ymchwil hinsoddol mewn gwirionedd, sefydliad nad yw'n gasgliad o bobl sgeptig ar fater cynhesu byd-eang; yn wir, maent yn gwbl groes i hynny. Felly, mae'r data rwy'n ei ddyfynnu wrthych yn dod gan y rhai sy'n cefnogi eich safbwynt chi, ond ni cheir unrhyw gydberthynas amlwg yn y ffigurau rhwng beth sy'n digwydd yn yr atmosffer o ran carbon deuocsid a'r hyn sy'n digwydd i'r tymheredd byd-eang cyn belled ag y gallwn—. Nid ydym yn deall effaith lawn y cefnforoedd, sef tri chwarter arwyneb y byd, ar yr hinsawdd. Nid ydym yn deall yn iawn beth yw effaith yr haul, ffynhonnell yr holl gynhesu, ac mae llawer iawn nad ydym yn ei ddeall mewn gwirionedd. Egwyddor gyntaf gwyddoniaeth yw deall eich cyfyngiadau eich hun a'r hyn nad ydych yn ei wybod yn hytrach na'r hyn rydych yn ei wybod.
Dechreuodd Jenny Rathbone ei haraith drwy siarad am garbon deuocsid fel llygrydd i bob pwrpas. Ond wrth gwrs nid yw carbon deuocsid yn llygrydd; nid yw'n debyg i nwyon eraill, fel sylffwr deuocsid. Wrth gwrs, mae pawb ohonom am weld aer glân, ond mae carbon deuocsid yn hanfodol ar gyfer twf planhigion. Felly, o ganlyniad i'r cynnydd a welsom mewn carbon deuocsid yn yr atmosffer dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhan sylweddol iawn o'r blaned na allai dyfu cnydau o'r blaen bellach yn gallu tyfu cnydau. Rydym yn gweld y blaned yn gwyrddu mewn gwirionedd. Anwedd dŵr yw'r cyfrannwr mwyaf i'r effaith tŷ gwydr yn yr atmosffer: 95 y cant ohono, mewn gwirionedd. Ac felly nid ydym yn deall effaith lawn hynny ar y posibilrwydd—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser i ildio eilwaith, mae'n ddrwg gennyf, oherwydd, fel arall, rwy'n—
Dewiswch chi. Mater i chi yw hynny. Os dymunwch wneud hynny, fe allwch, ond os nad ydych—nac ydych. Mae hynny'n iawn. Gallwch barhau.
Y pwynt allweddol yma yw mai 3 y cant o'r holl garbon deuocsid yn yr atmosffer a gafodd ei achosi gan bobl mewn gwirionedd. Felly, rydym yn sôn am rifau hynod o fach yma. Mae'r DU yn cyfrannu 2 y cant o'r carbon deuocsid a achoswyd gan bobl yn fyd-eang. Nid yw'r carbon deuocsid ei hun ond yn cyfrannu 3 y cant o'r carbon deuocsid byd-eang, sydd ynddo'i hun ond yn cyfrannu 5 y cant yn unig o effaith nwyon tŷ gwydr. Rydym yn sôn am ffracsiynau hynod o fach o 1 y cant o'r carbon deuocsid yn yr atmosffer. Felly, hyd yn oed pe baem yn gallu gweithredu'r holl fesurau a grybwyllir yn adroddiad yr IPCC, mae'r tebygolrwydd y bydd yn cael unrhyw effaith fesuradwy ar dymheredd yn eithriadol o fach. Felly, y brif neges rwyf am ei chyfleu heddiw yw hon: hyd yn oed pe bai yna gysylltiad, y cred rhai sy'n anghytuno â mi ei fod yn bodoli, rhwng cynnydd yn y tymheredd byd-eang a charbon deuocsid, mae costau cyflawni'r hyn y dymunwch ei wneud yn andwyol a bydd yr effeithiau'n ddibwys mewn gwirionedd.
Os gwrandawn ar y rhai sy'n gwadu bodolaeth newid hinsawdd ar yr asgell dde eithafol, byddwn yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r blaned hon, ac mae'n hynod frawychus fod pobl yn barod i wadu hynny.
Yn ôl yn 2011, cynhyrchais y Cynllun Gwyrdd ar gyfer y Cymoedd. Nawr, rhaglen yw hon ar gyfer adfywio ein cymunedau anghofiedig sydd wedi cael cam drwy sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd gyda gwaith cydweithredol a all arwain at ganlyniadau cynaliadwy. Pe baem wedi gweithredu'r cynigion yn y cynllun gwyrdd, byddem yn llawer agosach at gyrraedd lle mae angen inni fod o ran economi gynaliadwy. A gadewch inni fod yn glir yma: nid yw ymdrin yn iawn â newid hinsawdd yn golygu tincera ar yr ymylon. Nid yw hynny'n mynd i wneud unrhyw beth. Rydym wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd bellach. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dim llai na newid trawsnewidiol. Mae angen inni newid y sail sy'n pennu beth yw diben ein heconomi. Nid yw'n bodoli er mwyn y sefydliadau corfforaethol neu'r elît neu'r pwerau byd-eang. Dylai'r economi fod wedi'i llunio mewn modd sy'n darparu ar gyfer pobl, a dylai sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwarchod y blaned rydym yn byw arni, a dylem fyw o fewn ein modd yn ecolegol. Ond fel y dywed Raymond Williams wrth agor y cynllun gwyrdd,
Mae polisi economaidd a fyddai'n dechrau gyda phobl go iawn mewn lleoedd go iawn, ac a fyddai'n cael ei gynllunio i gynnal eu bywydau i'r dyfodol, yn galw am newid mawr yn ein ffordd o feddwl.
Yn wir, mae'n galw am newid mor fawr yn ein ffordd o feddwl fel nad ydym wedi llwyddo i'w wneud eto, ond mae'n rhaid inni ei wneud. Rhaid inni gael cynllun economaidd sydd â datblygu cynaliadwy ac nid twf anghynaladwy yn ganolog iddo, gan ddefnyddio adnoddau naturiol helaeth Cymru i bontio i economi nad yw'n ddibynnol ar danwydd ffosil mwyach.
Felly, beth y gallem fod yn ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn? Mae yna bethau y gallwn i gyd eu gwneud fel unigolion: gallwn hedfan yn llai aml, gallwn fwyta llai o gig, gallwn feicio mwy, ond mae arnom angen mwy o weithredu cymdeithasol a llywodraethol hefyd. Gallem wneud cymaint mwy i gymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy fentrau cydweithredol ar raddfa fach neu fentrau cymdeithasol. Gwelodd y Sefydliad Materion Cymreig y gallai £4.6 biliwn o fuddsoddiad mewn cynhyrchu trydan adnewyddadwy, ynghyd ag £1.2 biliwn mewn effeithlonrwydd ynni domestig, greu tua 4,500 o swyddi mewn cyfnod o 15 mlynedd o fuddsoddi. Gallem wneud hyn drwy gwmni ynni cenedlaethol, a gallem edrych hefyd ar gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol fel ffynhonnell ar gyfer buddsoddiad o'r fath. Mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn tanwydd ffosil sy'n difetha'r hinsawdd. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr ac mae'n rhaid iddo ddod i ben.
Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy dynnu sylw at y problemau gyda ffracio. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i wahardd ffracio yng Nghymru, a barn Plaid Cymru yw y dylai wahardd ffracio cyn gynted â phosibl. Clywsom yn gynharach yr wythnos hon am ddigwyddiad seismig maint 0.4 ar raddfa Richter ger Blackpool lle mae Cuadrilla yn ffracio am nwy mewn craig siâl. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynghylch mathau eraill o ffracio, oherwydd mae'n rhaid inni symud y tu hwnt i'n dibyniaeth ar danwydd ffosil. Felly, dylid cynnal yr egwyddor ragofalus i rwystro'r risg y byddai ffracio'n ei hachosi i Gymru. Ac yn anad dim arall, rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu i atal ffracio ac na fydd yn gweld y cynnig o swyddi neu gil-dwrn gan gwmnïau ffracio fel esgus i ganiatáu iddo ddigwydd. Yn rhy hir, mae ein hawch i gael swyddi neu gyllid wedi ein harwain i dderbyn prosiectau nad ydynt yn ddymunol ac ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd gyda ffracio. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac os ydym am wrando ar y rhybuddion yn adroddiad diweddaraf yr IPCC y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ac eraill atynt, rhaid inni newid y ffordd yr edrychwn ar swyddi a'n heconomi fel nad ydym yn parhau i dderbyn manteision tymor byr sy'n creu risg o boen yn fwy hirdymor.
Credaf ei bod yn amlwg fod y blaned mewn perygl, Ddirprwy Lywydd, ac mae barn mwyafrif helaeth y wyddoniaeth a'r gwyddonwyr ar y materion hyn yn gwneud hynny'n glir. Dyna pam y mae'r IPCC wedi dweud bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynharach ac yn gyflymach na'r disgwyl a bod gennym 12 mlynedd i atal y newid peryglus yn yr hinsawdd a bod rhaid i Lywodraethau weithredu camau radical ar unwaith i'w atal. Yn y math hwnnw o gyd-destun, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r pwyllgor newid hinsawdd adolygu allyriadau yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn chwarae ein rhan i gyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i 1.5 gradd, oherwydd bod difrifoldeb y sefyllfa'n mynnu hynny.
Felly, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, ac y gallwn ei wneud fel unigolion ac y gall sefydliadau ei wneud, ac mae'n her i bob un ohonom, onid yw? Nid her i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi, mae'n her i bob un o Aelodau'r Cynulliad, y pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau annibynnol yma heddiw. Er enghraifft, pe baem yn edrych ar gymorth amaethyddol ar ôl Brexit, ceir rhai materion anodd i bleidiau gwleidyddol. O ran rheoli tir a chymorth amaethyddol, gwyddom fod angen rhoi'r amgylchedd ar y brig i raddau llawer helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma wrth inni symud ymlaen, a bydd hynny'n creu anawsterau i bleidiau gwleidyddol, rwy'n credu, o ran y lobïo arnynt a rhai o'r etholaethau y maent yn eu cynrychioli. Felly, bydd angen penderfyniadau dewr o ran y materion hynny.
Yn amlwg, ceir penderfyniadau anodd i Lywodraeth Cymru, ac un yr hoffwn dynnu sylw ato, a amlygwyd yma heddiw eisoes, yw trafnidiaeth, oherwydd mae trafnidiaeth yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyffredinol. Gwyddom ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth sy'n llawer mwy integredig na'r hyn sydd gennym yma yng Nghymru oherwydd mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, ni fyddwn yn cyrraedd yno dros nos, ond mae'r metro, er enghraifft, yn un enghraifft o sut y gallwn wneud cynnydd pwysig ac arwyddocaol, ac rwy'n gobeithio gwneud hynny o fewn y cyfnod o amser o 12 mlynedd y mae'r IPCC yn ei nodi. Felly, gallem roi mwy o adnoddau tuag at y metro na'r hyn a gynlluniwyd ar hyn o bryd, a gallem ei adeiladu'n gyflymach pe baem yn gwneud penderfyniad, er enghraifft, i roi'r adnoddau a glustnodwyd ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd tuag at y system metro yn lle hynny. Buaswn yn cefnogi hynny'n bendant iawn. Gwelsom yr adroddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rydym yn aros am adroddiad yr ymchwiliad, ond bydd gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud—pob un ohonom a Llywodraeth Cymru—yn eithaf cyflym ar y mater pwysig hwnnw. Credaf y bydd yn dangos pa mor ddifrifol rydym ni ynglŷn â rhoi camau eofn, radical ac effeithiol ar waith i ymdrin â heriau newid hinsawdd.
Hoffwn weld teithio llesol yn cael mwy o flaenoriaeth fel rhan bwysig iawn o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom mewn perthynas â thrafnidiaeth i wneud i bobl gerdded a beicio mwy. Hoffwn ein gweld yn gwneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn ledled Cymru, gyda'r gallu i awdurdodau lleol gyflwyno gorchmynion traffig 30mya wedyn ar ffyrdd trefol mewnol fel eithriadau yn hytrach na'r arfer. Mae hynny'n mynd i arwain at feicio a cherdded mwy yn yr ardaloedd hynny ac unwaith eto, bydd yn rhan o'r ymagwedd honno tuag at drafnidiaeth integredig, ac yn rhan o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom.
Hefyd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gytuno fy mod yn credu bod gan Gaerdydd, fel ein prifddinas, gyfrifoldeb i fod yn esiampl wirioneddol dda, fel y mae dinasoedd yn ei wneud mewn mannau eraill. Credaf fod Caerdydd ar y daith honno. Mae ganddi lawer mwy o ardaloedd 20 mya bellach. Mae ganddi lawer mwy o feicio, a cherdded yn wir. Mae ganddi gynllun beiciau, a gwn ei bod yn ystyried camau radical ar gyfer lleihau nifer y teithiau cerbydau ar y ffyrdd yng Nghaerdydd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gweld y camau radical hynny ar waith cyn bo hir. Felly, mae'n berffaith bosibl ymateb i'r heriau hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n her fawr i Lywodraeth Cymru, i bob un ohonom, i'n hawdurdodau lleol, i'n prifddinas, i bob sefydliad a phob unigolyn yn ein gwlad.
Ceir ambell ddiwrnod pan deimlaf fod gwleidyddiaeth yn eithaf rhwystredig, ac yn aml, ar y dyddiau hynny, rwy'n meddwl tybed beth a wnaf ar y diwrnod pan na fyddaf yn y lle hwn mwyach, ac rwy'n eithaf hoff o'r syniad o addysgu. Rwy'n credu y byddai'r ddadl heddiw a'r cynnig ger ein bron yn gwneud astudiaeth achos dda iawn o'r hyn sydd o'i le ar y ffordd rydym yn gwneud gwleidyddiaeth, oherwydd rwy'n edrych ar gynnig Plaid Cymru ac nid oes unrhyw beth ynddo rwy'n anghytuno ag ef, ac eto, y prynhawn yma, byddaf yn pleidleisio yn ei erbyn, a byddaf yn cael fy nghondemnio gan res barod o bobl ar Twitter, sef pam y mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn ôl pob tebyg, er mwyn ceisio ein baglu. Byddant yn fy nghondemnio am beidio â gwneud yr hyn y credaf sy'n wir. [Torri ar draws.] Wel, mae Llyr Huws Gruffydd yn dweud nad dyna'r ffordd y maent yn gweithio; ddoe, Llyr—[Torri ar draws.] Ddoe, mynychais y rali ar ail bleidlais ar refferendwm yr UE. Nawr, ynghyd â llawer o bobl yn y Siambr hon, llofnodais y llythyr trawsbleidiol yn galw am ail refferendwm. Pasiodd y Cynulliad gynnig rai wythnosau yn ôl lle roedd ail refferendwm yn un o'r opsiynau. Ddoe, roedd yna rali dda gyda siaradwyr o bob plaid o blaid cynnal ail refferendwm. Sefais yno a gwrandewais ar arweinydd Plaid Cymru yn gwneud pwyntiau gwleidyddol ynglŷn â sut nad yw ACau Llafur wedi cefnogi refferendwm, pan oedd pawb ohonom yn sefyll yno gyda'n gilydd dros achos cyffredin i geisio cael gwleidyddiaeth flaengar oddi ar y ddaear. A dyma ni—[Torri ar draws.] Dyma ni eto—[Torri ar draws.] Dyma ni unwaith eto. Ac rwy'n ei chael hi'n wirioneddol rwystredig ein bod yn treulio amser yn ceisio baglu'n gilydd. Felly, mae Neil McEvoy yn ceisio baglu Plaid Cymru, ar gyfer pan gaiff ei adael yn ôl i mewn rwy'n tybio, fel y gall osod ei stondin fel rhywun sy'n wrth-niwclear. Mae Plaid Cymru'n ceisio baglu—. Neil Hamilton, Duw a'n helpo—lle mae dechrau yno? Roeddwn yn darllen, Neil—wrth wrando ar y dadleuon rydych wedi'u gwneud sawl gwaith—. Roeddwn yn darllen yn 1984 i chi bleidleisio yn erbyn gwahardd petrol a oedd yn cynnwys plwm, am eich bod yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod yn niweidiol ac y byddai swyddi'n cael eu colli yn eich etholaeth. A wyddoch chi, rydych wedi bod yn gyson anghywir. Roeddech yn anghywir ynglŷn â phetrol a gynhwysai blwm, roeddech yn anghywir ynglŷn ag apartheid, rydych chi'n anghywir ynglŷn â newid hinsawdd, rydych chi'n anghywir ynglŷn ag Ewrop. Felly, os gwelwch yn dda—er mor ddiddorol yw eich cael chi yma fel rhyw fath o ffigwr Madame Tussauds i'n hatgoffa pa mor erchyll oedd rhai o ddadleuon y gorffennol, nid oes amser ar gyfer hyn heddiw. Mae hwn yn fater difrifol. Rwy'n malio am hyn. Mae hwn yn fater difrifol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, David. Rwyf am ddatblygu'r ddadl. Ceir achos cyffredin ar draws pob plaid yma. Ceir dadl fod—dywedodd David Melding na fyddai cenedlaethau'r dyfodol yn maddau i ni'n hawdd am beidio â gweithredu o ddifrif. Yn hytrach na baglu'n gilydd a sgorio pwyntiau gwleidyddol—. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau yn y cynnig, fel rwy'n dweud, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Cymru newydd yn y flwyddyn newydd yn gweithredu ar nifer ohonynt. Ond ar yr M4, mae rheswm da pam nad wyf am bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru ar yr M4 y prynhawn yma, er fy mod yn cytuno ag ef: oherwydd bydd yna bleidlais o sylwedd arno. Fel y dywedodd arweinydd y tŷ ddoe, cynhelir pleidlais o sylwedd arno cyn y Nadolig. Bydd pleidlais ar y gyllideb. Dyna'r adeg i ddangos ein hochr ar yr M4, a'r cyfan y gallech ei wneud heddiw, trwy wneud arwydd symbolaidd, a chaf fy meirniadu amdano, yn ddiau—. Mae trafodaethau anodd yn mynd rhagddynt, a beth yw pwynt merthyrdod ffug heddiw, pan fo brwydrau difrifol i'w hymladd? [Torri ar draws.] Na, Rhun, nid wyf am ildio; ni wnaf. Mae brwydrau difrifol i'w hymladd, a materion o egwyddor ynglŷn â dyfodol ein gwlad a rhoi ystyr i'r agenda hon. A dyna beth—[Torri ar draws.] A dyna beth—[Torri ar draws.] A dyna beth y dylem ganolbwyntio arno, nid ceisio—[Torri ar draws.] Mae Rhun yn benderfynol o ymyrryd, ac felly fe ildiaf.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn yr ystafell ddosbarth rydych newydd ei disgrifio, lle byddwch yn rhoi'r ddarlith hon, a fyddwch yn cyfarwyddo neu'n pwysleisio wrth y disgyblion hynny fod glynu at eich egwyddorion yn eithaf pwysig, ac os ceir cynnig ger eich bron y byddwch yn cytuno â'i gynnwys, y dylech benderfynu pleidleisio o'i blaid fel mater o egwyddor?
Rwy'n credu—[Torri ar draws.] Mae eironi hynny, o ystyried y ddadl o fewn Plaid Cymru ar ynni niwclear, yn glir i mi. Ond gadewch imi ddweud, yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrth y dosbarth yw nad yw'r pethau hyn yn ddu a gwyn, fod yn rhaid i chi ddewis eich eiliadau ac ymladd eich brwydrau. Nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan Blaid Cymru ar y record ar newid hinsawdd. Arweiniais yr ymgyrch i greu Deddf teithio llesol. Sefydlais y prosiect yn y Sefydliad Materion Cymreig sydd bellach yn gwneud gwaith arloesol ar lunio map ar gyfer ynni adnewyddadwy. Gan weithio ar draws y pleidiau, rwyf wedi bod yn ddadleuwr allweddol yma ar y llwybr du ers dwy flynedd a hanner. Felly, nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan neb ar yr ochr acw ynglŷn â glynu wrth egwyddorion. Ond ceir eiliad mewn gwleidyddiaeth pan fyddwch yn taro a phan fyddwch yn gweithredu. Nid hon yw'r eiliad honno. Eiliad yw hon i eraill dynnu llygaid ei gilydd allan a sgorio pwyntiau, ac rwy'n gresynu at hynny.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon, yn dilyn cyhoeddiad panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Llyr Huws Gruffydd, yn ei sylwadau agoriadol, mai newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth.
Mae ein Deddf amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod allyriadau yng Nghymru o leiaf 80 y cant islaw'r llinell sylfaen ar gyfer 1990 erbyn 2050. Mae un o welliannau'r Llywodraeth yn cydnabod heriau datgarboneiddio, o ystyried ein proffil economaidd. Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar sefydlu fframwaith polisi a rheoleiddio i wireddu ein hymrwymiad statudol, yn seiliedig ar ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid a chyngor gan ein cynghorwyr statudol.
Rhaid i'n hymagwedd at newid hinsawdd gael ei llywio gan wybodaeth wyddonol, felly rwy'n croesawu adroddiad yr IPCC. Dyma'r asesiad gorau o bob gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli ar y pwnc, ac mae'n gwneud asesiad beirniadol o filoedd o astudiaethau o bob rhan o'r byd. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gymeradwyo comisiwn ar y cyd i gael cyngor gan ein cynghorwyr statudol, Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, ar oblygiadau'r dystiolaeth. Cyhoeddir yr adroddiad cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Ym mis Rhagfyr, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gytuno'r targedau interim a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru. Mae'r rhain yn cyd-fynd â chyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, a byddant yn gosod y cyd-destun ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu sydd angen inni eu rhoi ar waith fel Llywodraeth. Mae llawer o gonsensws trawsbleidiol ar yr agenda hon a'r camau sydd angen eu cymryd, ac mae hyn yn galonogol i ni fel cymdeithas. Rwy'n cytuno â llawer o'r teimladau yn y cynnig gan Blaid Cymru. Fodd bynnag, ni allaf gefnogi'r cynnig, gan y byddai gwneud hynny'n rhagbennu penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas â'r M4 ac echdynnu petrolewm, y mae gofyn iddynt ddilyn y broses briodol.
Mae datgarboneiddio ein sector pŵer yn arbennig o heriol, ac mae angen cymysgedd o ffynonellau cynhyrchu a thechnolegau i'n galluogi i addasu. Cred Llywodraeth Cymru fod niwclear yn rhan o'r gymysgedd o safbwynt cynhyrchu ynni carbon isel sylweddol, a dyma pam rydym yn gwrthwynebu gwelliant 2 gan Neil McEvoy. Fodd bynnag, ers dod i'r rôl hon, rwyf wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn awgrymu bod hwn wedi codi ymhellach, i 48 y cant yn 2017. Rydym hefyd wedi pennu targedau ar gyfer perchnogaeth gymunedol a lleol er mwyn sicrhau ein bod yn sicrhau manteision i Gymru o'r newid i system ynni carbon isel.
Bydd ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yn nodi'r camau, y polisïau a'r cynigion y byddwn yn eu rhoi ar waith i leihau allyriadau a chefnogi twf carbon isel ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth, adeiladau a defnydd tir. Rydym eisoes yn cyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu yn y meysydd hyn, ac felly, er ei bod yn galondid fod y Ceidwadwyr yn meddwl ar hyd llinellau tebyg, ni allaf gefnogi eu gwelliant 3, a hoffwn gyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth sy'n cydnabod y camau sylweddol hyd yma.
Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da. Er enghraifft, mae'r targedau lleihau allyriadau carbon rwy'n eu hargymell ar gyfer Cymru yn fwy uchelgeisiol na rhai ein cymheiriaid ar draws y DU, ac yn agos at yr mwyafswm sy'n dechnegol ymarferol ar gyfer Cymru. Rydym wedi gwneud datgarboneiddio yn ganolog ym mholisi Llywodraeth Cymru, gan ei gynnwys yn un o'n chwe blaenoriaeth drawsbynciol yn y strategaeth genedlaethol. Mae hefyd yn golofn ganolog yn ein cynllun gweithredu economaidd ar gyfer Cymru. Rwyf wedi nodi fy uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru. I gefnogi hyn, gwnaethom ymrwymo £28 miliwn o fenthyciadau cyfalaf di-log yn 2017-18, gan ychwanegu at y £27 miliwn yn y ddwy flynedd flaenorol. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau arbedion o £183 miliwn i'r sector cyhoeddus dros oes y technolegau a osodir a hefyd yn arwain at 820,000 tunnell yn llai o allyriadau carbon.
Yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru, rydym yn egluro ein gwrthwynebiad i ffracio. A bellach mae gennym bwerau mewn perthynas â ffracio, a dros yr haf, cynhaliais ymgynghoriad cyhoeddus ar echdynnu petrolewm yng Nghymru, a oedd yn nodi polisi nid yn unig i wrthwynebu ffracio, ond a oedd hefyd yn argymell na ddylid rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru. Rydym yn credu bod datblygu ffynonellau petrolewm newydd pellach yn mynd yn groes i uchelgeisiau a nodwyd yn y nodau llesiant a'n hymrwymiad i ddyfodol carbon isel. Ac yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn gwneud datganiad erbyn diwedd y tymor hwn yn cadarnhau ein safbwynt.
Yn ddiweddar, cyhoeddasom gynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, a fydd yn arwain at ostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a'r gororau, a chynlluniau ar gyfer datblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru a all gefnogi rhwydwaith drafnidiaeth amlfodd integredig a charbon isel ledled Cymru.
Ers 2011, rydym wedi buddsoddi mwy na £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni mwy na 45,000 o gartrefi, ac rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2021. Rwy'n adolygu Rhan L o'r safonau rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ynni gofynnol cartrefi newydd. Er mai un o'r nodau yw sicrhau cartrefi bron yn ddi-ynni fan lleiaf—sy'n ofynnol o dan gyfarwyddeb yr UE—byddaf yn ystyried gosod safonau mwy caeth i wireddu ein huchelgeisiau.
Gall y ddadl ynghylch dadfuddsoddi fod yn ffordd bwerus o ddenu cyfraniad unigolion, cronfeydd buddsoddi, a'r gymdeithas ehangach yn y mater hwn. Mae angen i reolwyr cronfeydd feddwl yn ofalus ynglŷn â beth y maent yn buddsoddi ynddo, o ran cywirdeb, risg o fuddsoddiad parhaus yn y sector tanwydd ffosil, a cholli cyfleoedd o bosibl o beidio â buddsoddi yn y sectorau carbon isel. Mae'r cyfeiriad byd-eang yn glir iawn bellach. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ysgogi momentwm yn y maes pwysig hwn, a buaswn yn croesawu cymorth pawb ohonoch i helpu i hwyluso'r newidiadau sydd eu hangen ledled Cymru. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Wel, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn siŵr ai mwynhau neu gasáu'r profiad a wneuthum mewn gwirionedd; roedd yn gwyro o un o emosiwn i'r llall, o'r consensws roedd David Melding yn sôn amdano, i rywbeth gwahanol iawn gan Lee Waters. Ond dyna ni, felly mae hi. Nid wyf yn meddwl bod y lle hwn yn ddiflas os mai dyma'r mathau o ddadleuon a gawn, ond dyna ni.
Mae gormod o siaradwyr i mi ymateb i bob un ohonynt, ac fe ddefnyddiais ormod o amser yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelodau yma. Credaf fod David Melding yn berffaith gywir, mewn gwirionedd, i ddweud y bydd pobl yn edrych yn ôl ar y ffordd rydym yn mynd i'r afael â hyn mewn ffordd nid annhebyg i'r modd y mae pobl yn ystyried caethwasiaeth. Wyddoch chi, caf fy atgoffa'n gyson gan gyfaill i mi, na fydd pobl yn y blynyddoedd i ddod yn deall pam ein bod yn defnyddio dŵr glân i fflysio ein toiledau. Dyna'r math o beth, wyddoch chi, y bydd pobl yn ei gwestiynu mewn blynyddoedd i ddod.
A Rhun, diolch i chi am eich cyfraniad yn ogystal. Roedd fy nhad ar y daith olaf a wnaeth y trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac rwy'n benderfynol ei fod yn mynd i fod ar y daith gyntaf y bydd y gwasanaeth newydd yn ei darparu, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell rwy'n gobeithio. A'r £100 biliwn ar HS2 a beth y gallem ei wneud â hwnnw—hynny yw, beth yw'r gair Cymraeg am 'mindblowing'? Roeddwn yn ceisio meddwl—o ddifrif, beth y gallem ei wneud â'n cyfran o hwnnw.
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ymateb i rai o sylwadau Lee, ac nid wyf byth yn siŵr, weithiau, a yw o ddifrif neu a yw'n gwneud drygioni, ond fe gymeraf yr hyn a ddywedodd. Fe ddywedoch chi fod yna eiliad pan fyddwch yn taro a bod yna eiliad pan fyddwch yn gweithredu. Wel, mae yna eiliad pan fo disgwyl i ni fel gwrthblaid osod cynnig gerbron y Cynulliad hwn hefyd. A dyma'r eiliad honno, wyddoch chi—dyma hi. Felly, ymddiheuriadau os wyf wedi'ch cynhyrfu chi—wel, rwy'n teimlo y dylwn ymddiheuro o leiaf. Efallai fod rhoi'r argraff ei fod yn rhyw fath o gynllwyn mawr i'ch rhwydo braidd yn chwerthinllyd, rhaid i mi ddweud, ond dyna ni.
Fe af i'r afael ag un neu ddau o'r gwelliannau yn yr amser byr iawn sydd gennyf ar ôl—neu'r holl welliannau yn yr amser byr iawn sydd gennyf ar ôl.
Y gwelliant cyntaf, gan y Llywodraeth—fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant 1, oherwydd ei fod yn ymgais i ailysgrifennu bach o hanes, a dweud y gwir. Datganiad syml yw e, yn nodi casgliad un o bwyllgorau'r Cynulliad yma, sef bod y Llywodraeth yn degybol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Nid oes eisiau bod yn ofn hynny. Hynny yw, os yw hynny'n debygol, wel, mae'n rhaid inni 'ffrynto lan' iddo fe, inni gael cyfieithu yn sâl iawn derm Saesneg. [Chwerthin.]
O ran gwelliant y Ceidwadwyr, mi fyddwn i'n cytuno â llawer iawn o beth sydd ynddo fe, ond fel sydd wedi cael ei ragweld, oherwydd eich bod chi'n dileu llawer o'r hyn ŷm ni'n dweud y leiciem ni i ddigwydd, byddwn ni ddim yn gallu ei gefnogi e.
Ar yr ail welliant, nid ydw i yn erbyn y gwelliant, ond mae Plaid Cymru yn glir ar lefel cenedlaethol ein bod ni'n gwrthwynebu gorsafoedd niwclear newydd, ac mae yna sawl rheswm dilys i wneud hynny, ond nid ydw i'n credu o reidrwydd mai hwn ydy'r un gorau. Nid yma, er enghraifft—. Nid oes ond eisiau edrych ar sut mae rhai amgylcheddwyr amlwg fel Monbiot wedi bod yn ymrafael â'r cwestiwn yma i gydnabod bod yna ddim consensws penodol ar hyn. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth sy'n haeddu inni fod yn ei bwyso a'i fesur e ac yn cael y drafodaeth ehangach yna ynglŷn ag e.
O ran y gwelliant olaf, gwelliant y Llywodraeth, a fyddai eto yn dileu ein holl awgrymiadau ni, nid amlinellu beth sy'n digwydd yw nod y cynnig yma, ond amlinellu beth yn fwy sydd angen ei wneud.
Byddai derbyn y gwelliant hwn gan y Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn gynnig hunanglodforus braidd, sydd ond yn rhestru beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a byddai hynny wrth gwrs yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â neges ganolog adroddiad y panel rhynglywodraethol. Nid, 'Beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd?' yw'r cwestiwn. Y cwestiwn yw, 'Beth rydym yn mynd i'w wneud yn ychwanegol at, a thu hwnt i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd?' Oherwydd os na wnawn hynny, os parhawn fel rydym yn ei wneud, fel y mae adroddiad y panel yn dweud wrthym, byddwn yn methu ar newid hinsawdd, ac mae goblygiadau hynny'n glir i bron bawb ohonom. Rhaid imi ddweud, ar ôl cyfraniad Neil Hamilton, efallai y byddaf yn ailasesu'r honiad a wneuthum yn fy araith mai'r bygythiad mwyaf i'r ddynoliaeth yw newid hinsawdd, oherwydd rwy'n meddwl bellach efallai mai'r bygythiad mwyaf i'r ddynoliaeth mewn gwirionedd yw'r rhai sy'n gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.