7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 5:21, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon, yn dilyn cyhoeddiad panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Llyr Huws Gruffydd, yn ei sylwadau agoriadol, mai newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth.

Mae ein Deddf amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod allyriadau yng Nghymru o leiaf 80 y cant islaw'r llinell sylfaen ar gyfer 1990 erbyn 2050. Mae un o welliannau'r Llywodraeth yn cydnabod heriau datgarboneiddio, o ystyried ein proffil economaidd. Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar sefydlu fframwaith polisi a rheoleiddio i wireddu ein hymrwymiad statudol, yn seiliedig ar ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid a chyngor gan ein cynghorwyr statudol.

Rhaid i'n hymagwedd at newid hinsawdd gael ei llywio gan wybodaeth wyddonol, felly rwy'n croesawu adroddiad yr IPCC. Dyma'r asesiad gorau o bob gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli ar y pwnc, ac mae'n gwneud asesiad beirniadol o filoedd o astudiaethau o bob rhan o'r byd. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gymeradwyo comisiwn ar y cyd i gael cyngor gan ein cynghorwyr statudol, Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, ar oblygiadau'r dystiolaeth. Cyhoeddir yr adroddiad cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ym mis Rhagfyr, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gytuno'r targedau interim a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru. Mae'r rhain yn cyd-fynd â chyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, a byddant yn gosod y cyd-destun ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu sydd angen inni eu rhoi ar waith fel Llywodraeth. Mae llawer o gonsensws trawsbleidiol ar yr agenda hon a'r camau sydd angen eu cymryd, ac mae hyn yn galonogol i ni fel cymdeithas. Rwy'n cytuno â llawer o'r teimladau yn y cynnig gan Blaid Cymru. Fodd bynnag, ni allaf gefnogi'r cynnig, gan y byddai gwneud hynny'n rhagbennu penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas â'r M4 ac echdynnu petrolewm, y mae gofyn iddynt ddilyn y broses briodol.

Mae datgarboneiddio ein sector pŵer yn arbennig o heriol, ac mae angen cymysgedd o ffynonellau cynhyrchu a thechnolegau i'n galluogi i addasu. Cred Llywodraeth Cymru fod niwclear yn rhan o'r gymysgedd o safbwynt cynhyrchu ynni carbon isel sylweddol, a dyma pam rydym yn gwrthwynebu gwelliant 2 gan Neil McEvoy. Fodd bynnag, ers dod i'r rôl hon, rwyf wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn awgrymu bod hwn wedi codi ymhellach, i 48 y cant yn 2017. Rydym hefyd wedi pennu targedau ar gyfer perchnogaeth gymunedol a lleol er mwyn sicrhau ein bod yn sicrhau manteision i Gymru o'r newid i system ynni carbon isel.

Bydd ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yn nodi'r camau, y polisïau a'r cynigion y byddwn yn eu rhoi ar waith i leihau allyriadau a chefnogi twf carbon isel ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth, adeiladau a defnydd tir. Rydym eisoes yn cyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu yn y meysydd hyn, ac felly, er ei bod yn galondid fod y Ceidwadwyr yn meddwl ar hyd llinellau tebyg, ni allaf gefnogi eu gwelliant 3, a hoffwn gyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth sy'n cydnabod y camau sylweddol hyd yma.

Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da. Er enghraifft, mae'r targedau lleihau allyriadau carbon rwy'n eu hargymell ar gyfer Cymru yn fwy uchelgeisiol na rhai ein cymheiriaid ar draws y DU, ac yn agos at yr mwyafswm sy'n dechnegol ymarferol ar gyfer Cymru. Rydym wedi gwneud datgarboneiddio yn ganolog ym mholisi Llywodraeth Cymru, gan ei gynnwys yn un o'n chwe blaenoriaeth drawsbynciol yn y strategaeth genedlaethol. Mae hefyd yn golofn ganolog yn ein cynllun gweithredu economaidd ar gyfer Cymru. Rwyf wedi nodi fy uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru. I gefnogi hyn, gwnaethom ymrwymo £28 miliwn o fenthyciadau cyfalaf di-log yn 2017-18, gan ychwanegu at y £27 miliwn yn y ddwy flynedd flaenorol. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau arbedion o £183 miliwn i'r sector cyhoeddus dros oes y technolegau a osodir a hefyd yn arwain at 820,000 tunnell yn llai o allyriadau carbon.

Yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru, rydym yn egluro ein gwrthwynebiad i ffracio. A bellach mae gennym bwerau mewn perthynas â ffracio, a dros yr haf, cynhaliais ymgynghoriad cyhoeddus ar echdynnu petrolewm yng Nghymru, a oedd yn nodi polisi nid yn unig i wrthwynebu ffracio, ond a oedd hefyd yn argymell na ddylid rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru. Rydym yn credu bod datblygu ffynonellau petrolewm newydd pellach yn mynd yn groes i uchelgeisiau a nodwyd yn y nodau llesiant a'n hymrwymiad i ddyfodol carbon isel. Ac yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn gwneud datganiad erbyn diwedd y tymor hwn yn cadarnhau ein safbwynt.

Yn ddiweddar, cyhoeddasom gynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, a fydd yn arwain at ostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a'r gororau, a chynlluniau ar gyfer datblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru a all gefnogi rhwydwaith drafnidiaeth amlfodd integredig a charbon isel ledled Cymru.

Ers 2011, rydym wedi buddsoddi mwy na £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni mwy na 45,000 o gartrefi, ac rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2021. Rwy'n adolygu Rhan L o'r safonau rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ynni gofynnol cartrefi newydd. Er mai un o'r nodau yw sicrhau cartrefi bron yn ddi-ynni fan lleiaf—sy'n ofynnol o dan gyfarwyddeb yr UE—byddaf yn ystyried gosod safonau mwy caeth i wireddu ein huchelgeisiau.

Gall y ddadl ynghylch dadfuddsoddi fod yn ffordd bwerus o ddenu cyfraniad unigolion, cronfeydd buddsoddi, a'r gymdeithas ehangach yn y mater hwn. Mae angen i reolwyr cronfeydd feddwl yn ofalus ynglŷn â beth y maent yn buddsoddi ynddo, o ran cywirdeb, risg o fuddsoddiad parhaus yn y sector tanwydd ffosil, a cholli cyfleoedd o bosibl o beidio â buddsoddi yn y sectorau carbon isel. Mae'r cyfeiriad byd-eang yn glir iawn bellach. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ysgogi momentwm yn y maes pwysig hwn, a buaswn yn croesawu cymorth pawb ohonoch i helpu i hwyluso'r newidiadau sydd eu hangen ledled Cymru. Diolch.