Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 24 Hydref 2018.
Wel, mae gwaith yr awdurdod lleol yn mynd rhagddo o ran datblygiad metro de-orllewin Cymru, ac o'n rhan ni, rydym hefyd wedi gofyn i'r Athro Barry sicrhau bod prosiectau y gallai Llywodraeth y DU eu hariannu yn cael eu cyflwyno gydag achos busnes cadarn cyn gynted â phosibl.
Mae'r Aelod yn codi nifer o ragolygon diddorol a allai ddenu arian gan Network Rail a Llywodraeth y DU. Yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn eithriadol o wael o gymharu â rhannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio i Abertawe wedi cael effaith fawr, nid yn unig o ran cystadleurwydd yr ardal, ond hefyd, rwy'n credu, ar hyder yr ardal. O ganlyniad, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn nodi cynlluniau rheilffyrdd a allai ddenu buddsoddiad Llywodraeth y DU drwy Network Rail i wella'r rhagolygon y gallwn rannu ffrwyth twf economaidd yn fwy teg ar draws y wlad, ac mae hynny'n cynnwys y cymunedau y mae'r Aelod wedi'u nodi yn ei rhanbarth.