1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag argaeledd swyddi mewn ardaloedd gwledig? OAQ52811
Diolch. Mae gwella argaeledd ac ansawdd gwaith ym mhob rhan o Gymru yn gwbl hanfodol i'n nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. A thrwy ein cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cymryd camau i alluogi pobl a rhanbarthau i elwa ar dwf cynhwysol yn ogystal â chyfrannu ato.
Diolch i chi am eich ateb. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros amaeth ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddogfen o'r enw 'Brexit a'n Tir', ac mae yna gynigion penodol o fewn y ddogfen honno a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i'r economi wledig yng Nghymru. Nawr, mae'r ymgynghoriad yna yn digwydd pan nad oes yna unrhyw fath o fodelu nac unrhyw fath o adolygu o beth fydd impact y cynigion yna o gwbl ar swyddi mewn ardaloedd gwledig. Ac rwyf i jest eisiau gofyn a ydy eich adran chi, felly, yn edrych ar beth fyddai'r impact o ymgymryd â chamau o'r fath, oherwydd mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd rownd yn dweud wrth bawb, beth bynnag fydd yn dod allan o'r ymgynghoriad, ei bod hi'n mynd i barhau â'r cynigion.
Wel, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod y materion hyn yn cael eu trafod yn is-bwyllgor y Cabinet ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae fy swyddogion a minnau—ac yn wir, holl Weinidogion y Llywodraeth rwy'n credu—yn cydnabod y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn arbennig yn peryglu swyddi gwledig a chymunedau'n fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r sector prosesu cig coch a fyddai'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'n cyflogi, rwy'n credu, tua 2,000 o bobl yng Nghymru, a bydd unrhyw golled o ran mynediad at y farchnad sengl yn peryglu'r swyddi hyn. O'n rhan ni, yn yr adran economi a thrafnidiaeth, rydym yn sicrhau bod Busnes Cymru yn darparu'r cyngor gorau posibl i fusnesau o bob maint a math, ond yn benodol i'r rheini sy'n fusnesau bach a chanolig ac yn ficro-fusnesau, mewn ardaloedd trefol neu ardaloedd gwledig.
Credaf ei bod yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, fod cyfraddau cyflogaeth mewn rhannau gwledig o Gymru wedi gwella'n gynt na mewn ardaloedd trefol yn y blynyddoedd diwethaf, a bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng i raddau mwy na mewn ardaloedd trefol. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau bod gwelliannau i'r economi wledig yn cael eu cynnal, a thrwy'r gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru, a chan Lywodraeth Cymru, a gweithio gyda'n partneriaid mewn addysg bellach ac addysg uwch, a chyda rhanddeiliaid yn y gymuned ffermio, rwy'n credu y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn rhoi Cymru yn y sefyllfa orau sy'n bosibl. Serch hynny, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod canlyniadau'r trafodaethau yn golygu na fydd y cymunedau gwledig rydym yn eu gwasanaethu, ac y mae llawer ohonom yn byw ynddynt, o dan anfantais sylweddol. A byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i wrando a gobeithio, yn parhau i weithredu ar y galwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
Mae fy rhanbarth i yn amlwg yn drefol, wedi'i dorri yn hanner gan yr M4, ond mae fy etholwyr mewn rhannau gwledig o Orllewin De Cymru angen gwaith hefyd. Mae'n debygol y byddai pobl sy'n teithio i'r gwaith o gymunedau gwledig y cymoedd yn nwyrain fy rhanbarth yn elwa o gyswllt rheilffordd o Bracla, er enghraifft. Ond yng ngorllewin fy rhanbarth yn ogystal, byddai llwybr strategol i Abertawe yn helpu trigolion y Gŵyr i gael mynediad at gyfleoedd gwaith heb fod angen teithio i'r ddinas, yn ogystal â gweithredu fel cyswllt cyflym, wrth gwrs, ar gyfer cymunedau yn sir Gaerfyrddin. Rwy'n credu y bydd y ddau syniad yn helpu cyflogwyr yn y dyfodol i feddwl o ddifrif ynglŷn â lleoli eu busnesau y tu allan i dde-ddwyrain Cymru, sydd eisoes yn gynyddol orlawn. Yn ogystal â sefyll ar eu pen eu hunain, gallai'r syniadau hyn ffurfio rhan o fetro Gorllewin De Cymru. Felly, rwy'n meddwl tybed beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddatblygu'r syniadau hyn.
Wel, mae gwaith yr awdurdod lleol yn mynd rhagddo o ran datblygiad metro de-orllewin Cymru, ac o'n rhan ni, rydym hefyd wedi gofyn i'r Athro Barry sicrhau bod prosiectau y gallai Llywodraeth y DU eu hariannu yn cael eu cyflwyno gydag achos busnes cadarn cyn gynted â phosibl.
Mae'r Aelod yn codi nifer o ragolygon diddorol a allai ddenu arian gan Network Rail a Llywodraeth y DU. Yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn eithriadol o wael o gymharu â rhannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio i Abertawe wedi cael effaith fawr, nid yn unig o ran cystadleurwydd yr ardal, ond hefyd, rwy'n credu, ar hyder yr ardal. O ganlyniad, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn nodi cynlluniau rheilffyrdd a allai ddenu buddsoddiad Llywodraeth y DU drwy Network Rail i wella'r rhagolygon y gallwn rannu ffrwyth twf economaidd yn fwy teg ar draws y wlad, ac mae hynny'n cynnwys y cymunedau y mae'r Aelod wedi'u nodi yn ei rhanbarth.