Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 24 Hydref 2018.
Gallaf gadarnhau fy mod bellach wedi cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ar ddau achlysur ers y tro diwethaf i mi ateb cwestiynau'r Aelod. Rydym wedi trafod amrywiaeth fawr o faterion, gan gynnwys y rhai a nodwyd ganddo. Buaswn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig am y materion amserlennu, ond hefyd am faterion sy'n ymwneud â llywodraethu Trafnidiaeth Cymru, y broses recriwtio ar gyfer cadeirydd a hefyd y rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol o ran cyflawni'r agenda trafnidiaeth ehangach.