Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:39, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nifer o wythnosau'n ôl, dywedasoch, mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi, rwy'n credu, eich bod yn bwriadu cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru i drafod nifer o faterion gydag ef mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. Fe egluroch chi mai un o'r materion y byddech yn ei godi oedd manylion ynghylch amserlennu, sef yn benodol, y gwelliannau arfaethedig i wasanaethau, gan gynnwys y rheini rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr a Chaerdydd, a rhwng Llandudno a Chaer. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â chanlyniad y trafodaethau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru, ac yn arbennig, canlyniad y trafodaethau ar amserlennu?