Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhan o'r fasnachfraint newydd yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rheilffordd bob hanner awr ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi ymgyrchu am wasanaeth bob hanner awr ers blynyddoedd lawer, gan gredu bod datblygu cynllun trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffordd fwy cynaliadwy o sicrhau cysylltedd ar gyfer cymudwyr, trigolion y Fro, ymwelwyr â'r arfordir treftadaeth a maes awyr Caerdydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad sylweddol i gynigion y Fro ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4. Mae ymgyrchwyr yn bryderus iawn ynglŷn â llygredd a diffyg cynrychiolaeth i'r grŵp amgylcheddol yn y grŵp adolygu ffyrdd. Felly, a ydych yn cytuno y dylid prysuro fy ngalwad am wasanaeth bob hanner awr yn y Fro? Mae'n ymddangos bod mwy byth o frys amdano.