Y Fasnachfraint Rheilffyrdd Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:07, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am arwain yr ymgyrch dros wasanaethau rheilffyrdd gwell ar gyfer ei hetholwyr, ac a gaf fi hefyd ddiolch i'r Aelod am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddar i drafod pryderon lleol am y cynigion ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4? Mae'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn ymwneud â nifer y cerbydau trên sydd ar gael. Nawr, bydd rheilffordd Bro Morgannwg yn gweld cynnydd i ddau drên yr awr o 2023 ymlaen, ac mae'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau yn dibynnu, wrth gwrs, ar gael cerbydau tri-moddol newydd sbon yn weithredol. Byddai'r amseroedd rhagbaratoadol cyfredol yn awgrymu mai'r dyddiad cynharaf y bydd y trenau hyn ar gael fydd 2023. Fodd bynnag, os oes unrhyw ffordd o gaffael y trenau'n gynt na hynny, byddwn yn eu gweithredu cyn y dyddiad hwnnw.