Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 24 Hydref 2018.
Bydd. Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chydnabod ei diddordeb brwd yn y maes hwn. Gallaf gadarnhau mai'r bwriad yw parhau i wella profiad pobl â nam ar eu golwg ac sy'n dymuno defnyddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n falch o ddweud hefyd y bydd darpariaethau fel canllawiau sain ar gyfer cynorthwyo teithio, y cynllun waled oren, sgwteri symudedd a chynlluniau teithio cŵn cymorth yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.
Nawr, credaf ei bod yn deg dweud bod bysiau'n darparu nifer enfawr o deithiau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi arwain ar hyn mewn sawl ffordd trwy sicrhau bod cyhoeddiadau clyweledol yn cael eu gwneud ar wasanaethau bysiau sy'n dibynnu ar gymorthdaliadau trethdalwyr. Roedd hyn yn uchelgeisiol iawn ac ar y pryd, roedd yn fesur eithaf dadleuol—roedd yn ymyrraeth ddadleuol ac yn galw am lawer gan y diwydiant. Fodd bynnag, ni wnaethom gilio rhag hynny, ac rwy'n awyddus, drwy gyfrwng y diwygiadau y soniais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma, i barhau i wella profiadau teithwyr, nid yn unig ar drenau ond ar fysiau hefyd, i bobl o bob gallu, i bobl sydd â golwg cyfyngedig neu bobl sydd wedi colli eu golwg yn llwyr.