Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd cyhoeddiad Trenau Arriva Cymru ychydig wythnosau yn ôl am eu pecyn newydd i gynorthwyo defnyddwyr rheilffyrdd sydd â nam ar eu golwg yn galonogol iawn. Roedd yn cynnwys pethau fel canllawiau sain arbenigol, cardiau cŵn cymorth a theithiau ymgyfarwyddo ar gyfer grwpiau sy'n cefnogi pobl â nam ar eu golwg. Rydym yn gwybod bod 107,000 o bobl â nam ar eu golwg yng Nghymru, ac mae'r RNIB yn awgrymu nad yw 80 y cant o'r rheini'n gallu teithio pryd bynnag neu i ble bynnag y byddent yn hoffi. Hoffwn wybod hyn: a fydd y darparwr newydd, Trafnidiaeth Cymru, yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau cymorth a gyflwynwyd gan Arriva yn flaenorol, fel bod cynlluniau uchelgeisiol fel y metro yn hygyrch i bawb yng Nghymru?