Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 24 Hydref 2018.
Wel, fy nod yw sicrhau mai gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r gororau fydd y gwasanaeth rheilffordd gorau yn y DU i deithwyr o fewn y 15 mlynedd nesaf. Bydd y cytundeb newydd yn mesur llwyddiant drwy gasglu data ar niferoedd teithwyr, adborth o arolygon teithwyr, ynghyd â mesur yr amser y mae teithwyr yn ei golli o ganlyniad i amhariadau.