Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 24 Hydref 2018.
Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n dda iawn gennyf wybod pa fath o gytundeb lefel gwasanaeth rydych wedi'i sefydlu gyda deiliad y fasnachfraint newydd, yn enwedig mewn perthynas â'r targedau a'r dangosyddion perfformiad a nodwyd yn y cytundeb lefel gwasanaeth hwnnw. Pa mor llym rydych yn gorfodi'r dangosyddion perfformiad hynny yn y cytundebau lefel gwasanaeth—? Pa atebion sydd gennych yn y cytundeb lefel gwasanaeth a chytundeb y fasnachfraint i orfodi'r cytundeb lefel gwasanaeth mewn gwirionedd?