Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Hydref 2018.
Wel, fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymrwymedig i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn dileu rhwystrau i deithio, hybu byw'n annibynnol, a grymuso grwpiau agored i niwed i gyfranogi ym mywyd y gymdeithas. Dyma un o gonglfeini 'Symud Cymru Ymlaen', sy'n nodi ein huchelgais i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig â chynaliadwy.