Gwasanaethau Bysiau Gwledig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:15, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrch leol yn galw am adfer gwasanaeth bws o Landudoch yn fy etholaeth i Aberteifi, gwasanaeth sydd wedi cael ei ddiddymu'n ddiweddar. Rhoddwyd llwybr newydd yn ei le sy'n golygu bod y bws olaf o Aberteifi'n cyrraedd Llandudoch am 4.24 p.m. Rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod yr anawsterau y gall hyn eu creu i'r gymuned leol, ac rwy'n deall na all Llywodraeth Cymru ymroi i ficroreoli gwasanaethau bysiau, ond pa waith penodol rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol fel sir Benfro a Cheredigion, i ddod o hyd i atebion ymarferol a realistig sy'n gallu diwallu anghenion cymunedau gwledig lleol?