Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y trafodaethau sydd wedi bod mewn perthynas â'r gwasanaeth T2 yn benodol. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn gwbl ymrwymedig i wella ac ymestyn y gwasanaethau TrawsCymru ledled Cymru. Maent wedi profi'n hynod o boblogaidd, ac mae'r cynllun peilot a oedd yn cynnig trafnidiaeth am ddim ar benwythnosau wedi bod yn arbennig o boblogaidd, gyda chynnydd o lawer mwy na 60 y cant yn niferoedd y teithwyr. Rwyf hefyd yn credu bod gwasanaeth TrawsCymru wedi gallu ategu gwasanaethau rheilffyrdd mewn ardaloedd o Gymru a fyddai fel arall heb fodd o'u cyrraedd. Felly, rwy'n awyddus, fel y dywedaf—a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn awyddus—i weld y gwasanaeth penodol hwnnw, TrawsCymru, yn cael ei ymestyn ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.