1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ52822
Gydag arian y Llywodraeth yn llifo i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae'r rhanbarth yn parhau i nodi, blaenoriaethu a chytuno prosiectau ac ymyriadau a fydd yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy, ac a fydd o fantais i'r rhanbarth cyfan.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad a ddaw yn sgil y fargen ddinesig, o ran swyddi a thrafnidiaeth. Ond rwy'n awyddus iawn i weld y fargen yn ei chyfanrwydd yn cael mewnbwn menywod, a bod y gwasanaethau a'r prosiectau a ddatblygir yn ystyried beth y mae menywod ei angen. Oherwydd, o'r arweinwyr cyngor, y 10 arweinydd cyngor sy'n ffurfio cabinet y fargen, un yn unig sy'n fenyw, Debbie Wilcox o Gasnewydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa gamau y gallai Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd i sicrhau bod y fargen ddinesig yn cael effaith gadarnhaol ar fenywod yn y gymuned yn yr ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn y fargen.
A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn? Roeddwn yn meddwl am anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ddiweddar mewn gwirionedd, ond mewn perthynas â rhan arall o Gymru, wrth drafod bargen benodol yn y gogledd, lle nad wyf yn credu bod cydbwysedd teg yn bodoli o ran dynion a menywod fel arweinwyr cynghorau, nac yn wir ar gynghorau yn gyffredinol. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn gwneud twf cynhwysol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a chredaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn sôn am dwf cynhwysol, ein bod yn sôn am gydbwysedd a thwf teg, ac mae angen inni edrych—nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond yn Llywodraeth Cymru hefyd—fel y gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Felly, mae'n gwbl hanfodol, pan fo lluniau'n cael eu tynnu neu pan fo cytundebau'n cael eu llofnodi, fod y bobl sydd yno gyda'r pin ysgrifennu, sy'n cyflawni'r ddyletswydd bwysig honno, yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Felly, dylai fod yn gytbwys a dylai gynrychioli pobl y gymuned y maent yn ei chynrychioli.
A gaf fi gymeradwyo Llywodraeth Cymru a chyngor Caerdydd, a'r sector preifat, am y cydweithio rhagorol sy'n gwneud cymaint i weddnewid canol Caerdydd ar hyn o bryd? Yr unig ddrwg yn y caws a welaf ar hyn o bryd yw'r tir ar Sgwâr Callaghan sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn barod i'w ddatblygu ers peth amser rwy'n credu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen arno ers 2013. Pryd y gwelwn rywfaint o gynnydd o ran gwneud defnydd priodol o'r safle yn y rhan bwysig hon o'n prifddinas?
Rydym yn ystyried prosiect arbennig yn Sgwâr Callaghan. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli bod gwerth y tir hwnnw wedi cynyddu ers i Lywodraeth Cymru ei gaffael, ac rydym yn gweithio i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau ar gyfer y gymuned a'n bod yn gwneud yr elw mwyaf posibl ar y buddsoddiad i'r trethdalwr. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu canol Caerdydd, credaf y gallai ddod yn fan hollbwysig ar gyfer ailddatblygu, ac felly rydym yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn i bobl Caerdydd a'r rhanbarth ehangach.
Diolch yn fawr iawn.