Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Hydref 2018.
A gaf fi ategu'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud mewn perthynas â hynny? Mae'n hollol anfoddhaol ein bod yn gorfod cael y mathau hyn o drafodaethau, ac er ei fod yn anodd i ni, mae'n llawer iawn anos i'r dinasyddion unigol hynny y mae eu bywydau mewn limbo ar un ystyr oherwydd diffyg eglurder hirdymor ynglŷn â rhai o'r materion hyn.
Mae'r Llywodraeth wedi croesawu cytundeb cyfnod 1 ar hawliau dinasyddion yn y cytundeb ymadael drafft, a bydd yr Aelod yn gwybod fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r datganiad o fwriad ar anheddu yn yr UE ym mis Mehefin eleni, ac fe grybwyllodd bobl sy'n gweithio yn y sector addysg uwch—ym mis Hydref, cytunodd y Swyddfa Gartref i ymestyn cyfnod prawf beta preifat y cynllun anheddu i Gymru, i gynnwys sefydliadau addysg uwch, y sector gofal cymdeithasol a'r GIG.
Mae deialog parhaus wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun anheddu yn gyffredinol—. Mae gennym bryderon, ac rydym wedi'u mynegi'n gryf, mewn perthynas â'r posibilrwydd na fydd miloedd o bobl, o bosibl, yn gallu manteisio ar y cynllun hwnnw oherwydd eu bod yn agored i niwed, efallai, neu oherwydd eu bod yn grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd, ac annigonolrwydd y cyfathrebu mewn perthynas â hynny. Ond yn arbennig, o ran y cynllun peilot, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi gwneud sylwadau penodol wrth Lywodraeth y DU. Nid ydym yn fodlon mai i unigolion yn unig y mae'r cynllun yn agored ac nid i'w teuluoedd. Rydym yn credu bod hynny'n amharchus a hefyd yn tanseilio bywyd teuluol ac yn wir, efallai ei fod yn tanseilio bwriad y cynllun ei hun hyd yn oed. Rydym hefyd yn pryderu ynglŷn â diffyg mecanwaith apelio statudol, a mentraf ddweud bod yna bobl sy'n oedi rhag dod i gysylltiad â'r cynllun hwnnw hyd nes y cânt fwy o sicrwydd y bydd eu teuluoedd yn cael eu cynnwys ynddo ac y byddant yn gallu cael mynediad at broses apelio.
Felly, mae nifer o bwyntiau sy'n peri pryder y parhawn i'w dwyn i sylw Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod hyn yn ymwneud, os caf ei roi felly, â'r cynlluniau uniongyrchol. Mae diffyg eglurder o hyd mewn perthynas â'r cynlluniau hirdymor ac rydym yn gwybod yn dda iawn yng Nghymru fod angen ymfudiad i Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi.