Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 24 Hydref 2018.
Rwyf eisiau codi sefyllfa dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw ym Mhrydain, sy'n briod â dinesydd Prydeinig, sydd â phlant Prydeinig, ac sy'n ofni y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, a gadael eu partner a'u plant ar eu holau. Nid yw'n gwestiwn academaidd, nid yw'n un sy'n seiliedig ar bosibilrwydd—mae'n gwestiwn gan un o fy etholwyr sy'n ofni canlyniad o'r fath. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r broblem hon a allai fod yn ddifrifol iawn i'r unigolyn dan sylw?