Creu Comisiynydd Traffig i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:35, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny. Deallaf yn awr fod hyn bellach yn dod o fewn ein cylch gorchwyl ni, gan fod Comisiynydd Traffig Cymru yn benodiad ar gyfer Cymru. Ym mis Awst eleni, rhoddodd ef, neu ei swyddfa, hysbysiad yn y papurau lleol yn gofyn am sylwadau gan bobl ynghylch cais trwyddedu cerbyd nwyddau a wnaed gan uwchfferm fawr yng ngorllewin sir Gaerfyrddin. Ac ar ran pobl Llan-y-bri, Llanllwch, Llan-gain, Llansteffan a Heol Allt-y-cnap, ysgrifennais yn ôl ato yn nodi ein gwrthwynebiad yn y modd cryfaf. Mae'r uwchfferm hon wedi bod yn boen i'w chymdogion ers amser maith a chafwyd llawer o ddamweiniau a llawer o broblemau. Syndod llwyr i mi oedd cael llythyr yn ôl a ddywedai, a dyfynnaf,

Gan nad oes Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u cynnwys yn y rhestr o wrthwynebwyr statudol— ac nid ydym bob amser yn wrthwynebydd statudol— ni chaiff ACau wrthwynebu cais o safbwynt ei effaith arnynt hwy'n bersonol oni bai eu bod yn berchen ar, neu'n meddiannu eiddo yng nghyffiniau'r ganolfan weithredu.

Gan fod y comisiynydd traffig bellach wedi dod yn endid Cymreig, tybed a fyddech yn gallu adolygu'r sefyllfa hon. Roeddwn o'r farn ei fod yn perthyn i'ch cylch gorchwyl chi yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd, pa un a ydym yn wrthwynebwyr statudol ai peidio, rydym yn cynrychioli llawer iawn o etholwyr, a chefais fy mrawychu'n llwyr gan yr ymateb hwn oherwydd mae wedi effeithio ar gannoedd o bobl, ac os ydynt yn gofyn i mi fod yn llais iddynt, yr holl bwynt pam rwy'n sefyll yma ger eich bron heddiw yw bod yn llais iddynt.