2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau ar gyfer Cymru o achos Wightman yn llysoedd yr Alban ynghylch Erthygl 50? OAQ52826
Wel, mae'r achos yn codi cwestiwn pwysig ynghylch y dehongliad o erthygl 50, a byddai'n ddefnyddiol iddo gael ei ateb er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad deallus ar unrhyw gytundeb ymadael y deuir iddo rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, neu os ceir canlyniad 'dim cytundeb'.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae'r golygfeydd di-drefn a welsom yn San Steffan o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gael unrhyw beth yn debyg i gytundeb ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn llawer tebycach i: beth y gallwn ei wneud i ymestyn neu hyd yn oed i ddirymu erthygl 50? A gwn fod yr achos hwn yn ei roi'n ôl mewn sefyllfa Llys Cyfiawnder Ewrop, ond nid yw'n debygol o adrodd yn ôl mewn gwirionedd tan rywbryd o gwmpas diwedd y flwyddyn, ar ôl pleidlais ystyrlon o bosibl hyd yn oed. Felly, sut y gallwch gyflwyno'r neges hon i Lywodraeth y DU, fod y llanast y maent yn ei greu, y dylent fod yn rhoi sylw i'r mater hwn, ac efallai'n edrych ar y posibilrwydd o ddirymu erthygl 50, fel y gallwn gael yr amser ychwanegol y mae pawb yn erfyn amdano? Oherwydd mae'r amser mor brin, mae'n annhebygol ein bod yn mynd i gwblhau unrhyw beth erbyn mis Mawrth 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach. Gallai fod yn ddefnyddiol inni atgoffa'n hunain beth sydd yn y fantol yn yr achos ei hun. Mae'r datganiad yn honni bod dehongliad Llywodraeth y DU o erthygl 50, ac yn arbennig ei honiad amlwg nad yw'n bosibl yn gyfreithiol i ddirymu hysbysiad erthygl 50 yn unochrog, yn anghywir. Dyna'r ddadl sy'n cael ei rhoi. Ymateb Llywodraeth y DU yn syml yw nad oes ganddi unrhyw fwriad i'w dirymu, ac felly nid yw'r cwestiwn yn codi ynglŷn â'r posibilrwydd o wneud hynny'n gyfreithiol ai peidio.
Cytunodd llysoedd yr Alban—Tŷ Mewnol Llys y Sesiwn—i gyfeirio'r cwestiwn i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a cheir dyddiad dros dro, fel yr awgrymai ei gwestiwn, rwy'n credu, sef 27 Tachwedd er mwyn penderfynu arno. Ond mae Llywodraeth y DU wedi ceisio caniatâd i apelio yn awr yn erbyn y cyfeiriad at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a gaiff ei glywed ar 8 Tachwedd, yn yr Alban. Bûm yn cadw llygad manwl ar ddatblygiad yr achos hwn, fel y bydd wedi'i ddisgwyl, a rhagweld y posibilrwydd cynyddol o Brexit 'dim cytundeb', a fyddai, fel rydym wedi dweud dro ar ôl tro, yn drychinebus i Gymru ac i'r DU.
Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddisgrifio canlyniad posibl yr achos hwn yw ei fod yn gyd-destun pwysig i'r trafodaethau a'r penderfyniadau y bydd angen eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n credu bod angen cydnabod y byddai'n rhaid i unrhyw Lywodraeth y DU feddwl yn ofalus iawn cyn cymryd y cam o ddirymu erthygl 50, hyd yn oed os ydym yn darganfod o broses y llys ei bod yn bosibl gwneud hynny. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod canlyniad y refferendwm yn golygu y dylai'r ddadl ymwneud â ffurf ac nid ffaith Brexit, ond fel y mae ei gwestiwn yn dweud yn glir, mae'r modd trychinebus a di-glem y mae Llywodraeth y DU wedi trin y negodiadau, sy'n gwneud senario 'dim cytundeb' yn fwyfwy tebygol, yn golygu bod angen inni gael eglurder ynghylch yr holl opsiynau cyfreithiol a allai fod ar gael wrth i'r penderfyniadau a'r trafodaethau hynny ddatblygu.