Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 24 Hydref 2018.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir fod cynllun y taliad sylfaenol yn dod i ben. Fel y nodir yn 'Brexit a'n Tir', rwy'n bwriadu gosod rhywbeth yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yn ei gyfanrwydd. Mae'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo a byddaf yn ystyried ymatebion cyn gwneud penderfyniadau. Ni fydd unrhyw newidiadau i daliadau fferm yn digwydd heb ymgynghori ymhellach.