3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw ei sylwadau yn y Farmers Guardian ar 18 Hydref, lle y dywedodd na fydd yn ystyried cynnal rhyw fath o daliad uniongyrchol i ffermwyr, hyd yn oed pe bai’r rhan fwyaf o ymatebwyr i 'Brexit a’n Tir' yn gofyn am hynny, yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru? 224
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir fod cynllun y taliad sylfaenol yn dod i ben. Fel y nodir yn 'Brexit a'n Tir', rwy'n bwriadu gosod rhywbeth yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yn ei gyfanrwydd. Mae'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo a byddaf yn ystyried ymatebion cyn gwneud penderfyniadau. Ni fydd unrhyw newidiadau i daliadau fferm yn digwydd heb ymgynghori ymhellach.
Wel, mae'r erthygl gennyf yma. Rydych chi newydd ddweud wrthym y byddwch yn ystyried ymatebion, ond yma rydych yn dweud,
Pan ofynnwyd iddi a fyddai'n ystyried cadw rhyw fath o daliad uniongyrchol pe bai mwyafrif helaeth yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gofyn am hynny, dywedodd: 'Na fuaswn'.
Nawr, yr wythnos diwethaf yn unig roeddech yn ceisio ailysgrifennu hanes ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Sue Hayman mewn sylwadau ynghylch taliadau yn Lloegr, a heddiw efallai eich bod chi'n ceisio ailysgrifennu ychydig o hanes yma o ran yr hyn a ddywedoch chi. Mentraf ddweud eich bod yn dechrau swnio ychydig bach fel Donald Trump Cymru. Ac mae'n teimlo fel jôc wael, onid yw? Pa bryd nad yw ymgynghoriad yn ymgynghoriad? Wel, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg wedi penderfynu'n union beth y mae am ei wneud, ni waeth beth fydd unrhyw un yn ei ddweud. A go brin fod hynny'n edrych yn dda. Rydych chi wedi gwneud cawlach o'r broses hon, mentraf ddweud. Yn gyntaf, eich ymyrraeth gyda'ch llythyr hanner ffordd drwy'r ymgynghoriad i ffermwyr yn ymyrryd ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ar y pryd, ac yn awr, ni waeth beth y mae pobl yn ei ddweud, rydych chi'n dweud nad ydych yn mynd i wrando ar eu safbwyntiau. Felly, sut y gall y cyhoedd gael hyder yn y broses hon, Ysgrifennydd y Cabinet? Onid yw eich sylwadau'n tanseilio holl ddilysrwydd eich ymgynghoriad cyhoeddus—neu ymgynghoriad cyhoeddus honedig? Onid yw'n creu amheuaeth ynghylch uniondeb ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid ar y mater hwn?
'Dim o gwbl' yw'r ateb byr i'ch cwestiwn. Gadewch imi gywiro rhai o'r pwyntiau a godwyd gennych. Fel y dywedais, ymhell cyn i'r ymgynghoriad ddechrau, roeddem yn dweud bob amser y dôi cynllun y taliad sylfaenol i ben. Rydym o'r farn nad dyna yw'r cynllun gorau i gefnogi ein ffermwyr—[Torri ar draws.] Os hoffai'r Aelod wrando. [Torri ar draws.]
Na, ni allwn, ac nid yw hwnnw'n sylw defnyddiol, mae'n ddrwg gennyf. Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly os ydych am wrando, fe ddywedasom cyn i'r ymgynghoriad ddechrau y byddai cynlluniau'r taliad sylfaenol yn dod i ben. Rwyf wedi bod yn glir ar sawl achlysur—byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud yn y Sioe Frenhinol, byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud yn y Siambr, efallai y byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud mewn pwyllgorau, ac rwy'n bendant wedi'i ddweud yn fy nghyfarfodydd bwrdd crwm, felly roedd yr holl randdeiliaid yn ymwybodol iawn o hynny. Rhaid inni gefnogi ffermwyr mewn ffordd well. Felly, mae'n ymgynghoriad ar yr hyn a ddaw yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais.
Rydym wedi cynnig dau gynllun mawr hyblyg: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus, a dyna rydym yn ei gynnig mewn perthynas â chymorth incwm ar gyfer ein ffermwyr. Mewn perthynas â Sue Hayman, gallai fod o ddiddordeb i chi weld y llythyr y mae Sue Hayman wedi'i anfon at y lywydd NFU Cymru heddiw, a chefais gopi ohonom, ac fe welwch pam y dywedais yr hyn a ddywedais. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i chi hefyd.
Fe gyfeirioch chi hefyd at y llythyr agored a anfonais at ffermwyr. Mae Brexit yn ddigynsail. Credaf mai dyna'r gair a ddefnyddioch chi—fy mod wedi gwneud rhywbeth digynsail. Mae'n gwbl briodol i Lywodraeth Cymru roi eglurder pellach ar ei chynigion. Rydym am weld dadl frwd a gwybodus. A rhaid imi ddweud, roeddwn yn bryderus iawn pan gyflwynwyd yr ymgynghoriad hir hwn y byddai pobl wedi blino ar Brexit. Mae'n wych nad yw hynny wedi digwydd. Mae'n dda iawn ein bod yn ymgysylltu mewn ffordd—. Roeddech chi, fel finnau, yn y digwyddiad amser cinio a gynhaliwyd ac a noddwyd gan Paul Davies. Rwy'n meddwl ei bod hi'n wych ein bod yn cael yr ymgynghoriad hwn. Ond mae'n ymgynghoriad ystyrlon. Os oes unrhyw un yn ei danseilio, chi yw hwnnw. Nid wyf eisiau i hynny barhau. Rwyf am i bobl ddeall bod yr ymatebion a gawn—ac rydym wedi cael miloedd, yn llythrennol—. Nid yw'n dod i ben tan ddydd Mawrth, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai pawb gyflwyno eu safbwyntiau.
Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y fraint o gynnal y sesiwn friffio ar y cyd y cyfeirioch chi ati'n gynharach gydag NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, ac roeddwn yn falch eich gweld yn y digwyddiad hwnnw. Nawr, credaf mai'r hyn a gafodd ei gyfleu'n eglur yn y digwyddiad oedd bod ffermwyr ledled Cymru yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt, a gwelir yr ymgynghoriad hwn fel llen fwg i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen doed a ddel a rhoi diwedd ar daliadau uniongyrchol ni waeth beth fydd ewyllys y sector amaethyddol neu'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi yr effeithid arnynt yn anuniongyrchol gan y cynigion hyn hefyd. Mae'n bwysig iawn fod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn rhoi pwyslais haeddiannol ar gynhyrchu bwyd, yn sicrhau cydraddoldeb i ffermwyr Cymru ac yn cydnabod y goblygiadau difrifol y gallai'r cynigion hyn eu cael i economi wledig Cymru ac yn wir, ar ein diwylliant. Mae'n hollbwysig fod y cydbwysedd yn gywir rhwng rheoli tir a chynhyrchu bwyd er mwyn gwarchod cynaliadwyedd y diwydiant ar gyfer y dyfodol. Felly, a wnewch chi ymrwymo yn awr i wrando ar safbwyntiau ffermwyr Cymru ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben er mwyn diogelu'r sector ar gyfer y dyfodol, a gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu cynigion sy'n deg, yn briodol ac sydd o ddifrif yn adlewyrchu barn y diwydiant ffermio a'r economi wledig ehangach yma yng Nghymru?
Roeddwn yn falch iawn o fod yn y digwyddiad amser cinio; mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yn gallu aros am yr awr gyfan. Nid wyf yn gwybod os oeddech yn gwrando, ond yr hyn a glywais gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn teimlo ein bod yn gwrando, oedd 'ydym'. Mae'r ddau unigolyn a oedd ar y llwyfan, y ddau lywydd, yn rhan o fy mwrdd crwn Brexit. Dywedodd y ddau nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen honno, oherwydd roeddent wedi eistedd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Dywedodd un ohonynt wrthyf, 'Mae hon yn adeg ar gyfer diwygio radical', ac mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn radical—rwy'n derbyn hynny—ond rhaid inni gynllunio'r system orau ar gyfer cymorth i ffermydd yma yng Nghymru, a dyna rydym yn ymgynghori yn ei gylch.
Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â chynhyrchu bwyd, ac os edrychwch ar y pedwar ymgynghoriad a gynhelir yn y DU ar amaethyddiaeth, credaf fod cynhyrchu bwyd yn llawer mwy canolog i'r ymgynghoriadau hynny yng Nghymru nag yn unrhyw un o'r ymgynghoriadau eraill.
Soniais yn fy ateb i Llyr ein bod wedi argymell dau gynllun. Bydd hynny'n rhoi cyfle i ffermwyr greu busnesau mwy cadarn a mwy amrywiol. Mae'n hollol iawn ein bod yn eu gwneud mor gynaliadwy â phosibl. Rydym am iddynt aros ar y tir. Rydym am iddynt gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae cymaint o ansicrwydd i'w deimlo ar hyn o bryd. Hefyd, rydym am iddynt ddarparu'r nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen ar bawb ohonom fel cymdeithas, ac ar hyn o bryd, ni fuaswn yn dweud bod ffermwyr yn cael eu talu amdanynt. Felly, mae yna lawer o nwyddau cyhoeddus ar hyn o bryd nad ydynt yn cael incwm amdanynt, a dyna fydd y cynllun nwyddau cyhoeddus yn ei wneud.
Mae'n hollol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet gael meddwl agored ynghylch dyfodol y polisi amaethyddol a'r cyfle y mae Brexit yn ei roi, ond rwy'n credu bod yn rhaid iddi gydnabod bod ffermwyr Cymru yn dibynnu llawer mwy ar y polisi amaethyddol cyffredin na ffermwyr yn Lloegr; gall ffurfio hyd at 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, ond 55 y cant yn unig yw'r cyfartaledd yn Lloegr. Felly, mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, inni edrych ar hyn gam wrth gam, heb ruthro i wneud newidiadau ar raddfa eang mewn amser rhy fyr, a fyddai'n ei gwneud hi'n anodd iawn rheoli'r cyfnod pontio. O ystyried bod 85 y cant o'r cymorthdaliadau'n cael eu talu o dan golofn 1 yn hytrach na cholofn 2, fel eu bod yn daliadau uniongyrchol yn hytrach nag ar gyfer cynlluniau amgylcheddol cysylltiedig, mae'n anodd i mi weld sut y gallem symud yn gyflym iawn i wneud y mathau hynny o gynlluniau colofn 2 yn ddigon cadarn i gynnal lefelau presennol o incwm ffermydd. O ystyried bod incwm ffermydd yn llai nag £20,000 ar gyfartaledd a bod swm y cymhorthdal a dderbynnir mewn taliad uniongyrchol oddeutu £16,000 ar gyfartaledd, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn deall pam y mae llawer o ffermwyr yn bryderus iawn y byddant yn colli symiau sylweddol o incwm na allant fforddio ei wneud, gan wthio eu busnesau o fod yn fentrau sy'n gwneud elw bach i fod yn fentrau sy'n gwneud colled. Gallai hynny arwain at ganlyniadau trychinebus i gefn gwlad yn gyffredinol.
Os caf sôn am y ddau bwynt y credaf fod Neil Hamilton yn eu gwneud, credaf eich bod yn gywir am yr 80 y cant o ffermydd ac mai dyna yw eu hincwm, a chredaf fod hynny'n dweud stori wrthych, a dyna'n union rwy'n ei ddweud: yn fy marn i nid yw'r polisi amaethyddol cyffredin yn annog nac yn amddiffyn ffermwyr rhag llawer o'r ansefydlogrwydd, yn fwyaf arbennig, rydym wedi'i weld. Rydym am eu gwneud yn fwy gwydn. Nid wyf yn meddwl fod y PAC wedi gwneud hynny os oes gennym ffermydd sy'n ddibynnol ar y cynlluniau hynny am 80 y cant o'u hincwm.
O ran symud pethau gam wrth gam, rydych yn llygad eich lle, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ac ni fyddant yn cael eu gwneud hyd nes y daw'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad i law. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn ystod y gwanwyn nesaf. Ni fydd unrhyw newidiadau i daliadau o gwbl. Ni fydd unrhyw gynlluniau'n cael eu cynllunio heb asesiad effaith priodol. Ni fydd unrhyw hen gynlluniau'n cael eu dileu cyn i'r cynlluniau newydd ddod yn barod. Felly, rwyf wedi ymrwymo i gynlluniau'r taliad sylfaenol ar gyfer 2018-19, ac yna byddwn yn edrych ar hyn o 2020 ymlaen. Rwyf wedi dweud hyd yn oed—a chredaf fy mod wedi'i ddweud yn yr erthygl y cyfeiriodd Llyr ati—os credwn fod angen iddi fod yn flwyddyn arall o bontio neu ddwy flynedd arall o bontio, byddwn yn edrych ar hynny. Rwy'n hyblyg iawn ynglŷn â hynny. Cawn weld beth a ddaw o'r ymgynghoriad.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.