6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:44, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymryd eiliad fer i ddiolch i bawb ar y pwyllgor, gan gynnwys y rhai a fu'n gyd-aelodau i mi o'r pwyllgor ac aelodau o'r tîm clercio? Mwynheais fy amser ar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn fawr, ac er fy mod yn falch iawn o siarad am addysg yn awr, rwy'n mynd i gofio'r ddwy flynedd a hanner hynny, nid yn unig gyda hoffter, ond oherwydd i mi ddysgu cymaint yno sy'n mynd i fod yn werthfawr yn fy mhortffolio newydd, ac fe ddof at hynny wrth imi wneud fy nghyfraniad heddiw.

Digwyddodd yr ymchwiliad hwn am fod pobl Cymru wedi gofyn inni ei wneud, a gwn ei fod o ddiddordeb arbennig i'r Cadeirydd, ond ni sylweddolais fod cymaint o awydd i daflu goleuni ar yr hyn y gwelwyd ei bod yn sefyllfa sy'n codi ledled Cymru nes inni wneud yr apêl hon i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac rwy'n dal i feddwl bod y ffordd arloesol hon o benderfynu ar ran o leiaf o'r hyn a fyddai'n waith i'r pwyllgor yn werthfawr iawn ac yn bendant yn werth i bwyllgorau polisi eraill ei hystyried. Gyda'r ymchwiliad penodol hwn yn unig, cynorthwyodd y broses i nodi'r angen am gyngor arbenigol, er enghraifft, na fyddech wedi bod yn ymwybodol ohono o'r blaen efallai, ac roedd hynny o gymorth inni ddeall bod angen inni gasglu rownd arall o dystiolaeth, a gwnaethom hynny, ar ôl canfod fod materion o bwys yn deillio o'r cylch casglu tystiolaeth gwreiddiol. Felly, gwledd symudol yn bendant, ond ffordd newydd o wneud pethau y credaf ei bod wedi sicrhau ein bod oll fel aelodau pwyllgor yn teimlo inni gael ein haddysgu'n briodol cyn i ni lofnodi argymhellion yr adroddiad.

Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rai o'r argymhellion yn unig, gan ddechrau gyda'r ddau gyntaf. Mae gwir angen i rywun gymryd cyfrifoldeb dros fodolaeth a llwyddiant gwasanaethau cerddoriaeth, ac rydym yn credu mai Llywodraeth Cymru a ddylai wneud hynny, yn bennaf o ganlyniad i'r nodau llesiant statudol sy'n effeithio ar lywodraeth bellach yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Roedd gennym ddiddordeb mewn amrywiaeth o fodelau cyflawni, a byddaf yn dychwelyd atynt, ond roeddem yn glir na ellir gadael hyn i gynghorau heb fawr o arian geisio achub y gwasanaethau hyn eu hunain—mae'r pwysau o ran ariannu gweithgareddau nad ydynt yn statudol ym mhob cyngor yn ddifrifol y dyddiau hyn—ac ni all ddibynnu ar ddiddordeb swyddogion allweddol mewn cynghorau, nac yn wir o fewn arweinyddiaeth ysgolion, er mwyn i'r gwasanaethau hyn fodoli o gwbl, mae'n ymddangos i mi. Nid yw'n ffordd ddiogel o sicrhau'r gwasanaethau hynny. Hefyd, cawsom siom braidd—credaf ichi sôn am hyn, Bethan—na wnaed unrhyw gynnydd sylweddol iawn ar argymhellion go ddefnyddiol a wnaed gan grŵp gorchwyl a gorffen y Llywodraeth ei hun ar wasanaethau cerddoriaeth flwyddyn neu ddwy yn ôl.

Nawr, wedi dweud hynny, credaf yn gryf fod cynllunio gwasanaethau cerddoriaeth yn weithgaredd cydgynhyrchiol. Nid wyf yn meddwl y dylai hynny fod yn fater i Lywodraeth Cymru. Nid mater i weision sifil ydyw, a dyna pam yr oeddwn yn hapus iawn i gefnogi argymhelliad 1, oherwydd credaf mai rôl y Llywodraeth yw pennu amcanion strategol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth sydd, yn fy marn i, yn mynd y tu hwnt i ddiben craidd gwasanaethau cerddoriaeth, sef tyfu ein cenhedlaeth nesaf o gerddorion. Drwy edrych ar gyfranogiad mewn cerddoriaeth fel arf i gyflawni ystod gyfan o amcanion lles ac addysg, hyd yn oed y tu hwnt i'r cynllun dysgu creadigol, os oes angen—arf ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, er enghraifft. Mae gennym adroddiad Kay Andrews. Rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o waith wedi'i wneud ar hwnnw'n eithaf buan i weld sut y mae'r ddarpariaeth i'w gweld yn erbyn hwnnw. Ond mae'r rhain oll yn ffyrdd o adeiladu angen am wasanaethau cerddoriaeth.

Felly nid yw'n fater o'r diben craidd yn unig. Gall gwasanaethau cerddoriaeth wneud cymaint yn fwy, ac mae angen i bobl eraill dderbyn bod yna gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cynnal y gwasanaethau hynny y tu hwnt i'r diben craidd. Mae'n golygu mwy nag un ffrwd incwm i ddechrau, ac rwy'n credu efallai y bydd rhai puryddion allan yno sy'n credu efallai ei bod yn ffordd braidd yn weithrediadol o edrych ar wasanaethau cerddoriaeth, ond mae'r ffordd rwy'n edrych arno'n adeiladu ar gasgliadau sylfaenol y pwyllgor y bydd pethau'n methu os ydym yn parhau fel y gwnawn. Felly, os gall sectorau polisi eraill ddechrau edrych ar sut y gall cerddoriaeth fod o werth iddynt hwy—ac fe sonioch am rai enghreifftiau, rwy'n meddwl, Bethan—yna credaf fod ei fodolaeth yn dod yn fwy o flaenoriaeth wleidyddol. Gorau po fwyaf o bobl sydd â budd ynddo.

Rwy'n credu mai corff cenedlaethol, sydd er hynny'n gweithredu'n helaeth ar lefel ranbarthol a lleol, yw'r ffordd orau o sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg, fod safonau'n cael eu cynnal, fod pob rhan o Gymru'n cael ei chynnwys, ac wrth gwrs fod yna safonau ar gyfer talu am ddarparwyr gwasanaethau cerddoriaeth. Credaf ei bod hi'n rhaid mai corff cenedlaethol yw'r dull gorau o wneud hynny, yn ogystal â chyd-drefnu'r ffrydiau incwm amgen hyn. Felly, os yw hynny'n golygu gwella rôl Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, neu rywbeth ar wahân, nid oes ots gennyf mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod angen inni wneud hynny.

Yna'n fyr fe ddychwelaf at y cwestiwn sy'n codi ynghylch argymhelliad 4. Un ateb sy'n gweddu i bawb—nid ydym ei angen, nid yw'n ddymunol. Cawsom dystiolaeth ardderchog gan grŵp cydweithredol yn sir Ddinbych, rwy'n credu. Pam y dylem ailddyfeisio'r olwyn pan fo'r darparwyr cerddoriaeth eu hunain yn gallu cynllunio gwasanaethau sy'n gweithio'n dda?

Yn olaf hoffwn ddweud, fel unigolyn di-dalent fy hun, fy mod yn dibynnu ar eraill i wneud cerddoriaeth i fy ngwneud i'n hapus, ond mae hynny'n wir hefyd am y bobl unig, ynysig, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, problemau cyfathrebu, dementia, pobl â phroblemau iechyd meddwl—maent yn dibynnu ar gerddoriaeth mewn rhai achosion i'w helpu i fyw eu bywydau, ac mae pawb ohonom ei hangen er mwyn cymryd rhan yn ein diwylliant cenedlaethol. Diolch.