Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 24 Hydref 2018.
Nid yw'r adroddiad hwn wedi'i frysio. Cynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyntaf ym mis Ionawr 2017, ac am yr amser roeddwn i ar y pwyllgor, roedd y rhai ohonom a wasanaethodd—ac mae'n arwyddocaol, pan edrychwch chi ar yr adroddiad, faint o bobl wahanol sydd wedi mynd drwy'r broses benodol hon; mae wedi ymwneud â hyd at un rhan o bump o holl Aelodau'r Cynulliad. Ond credaf ein bod wedi cymryd ein hamser yn fwriadol, oherwydd roedd yn hawdd rhuthro i gael ateb slic a chyflym i'r hyn sy'n fater anodd iawn yn yr oes hon o gyni. Rwy'n credu ein bod wedi dod i gytundeb cyffredinol fod cael darpariaeth o wasanaethau cerddorol mewn ysgolion yn nwydd cyhoeddus ac yn hawl ddiwylliannol. Ond gyda llai a llai o adnoddau i awdurdodau lleol a dyletswydd i ddarparu gwasanaethau statudol, nid oedd unrhyw ffordd hawdd allan. Ac er cymaint y demtasiwn i ymateb i alwad Owain Arwel Hughes a soniai am argyfwng drwy gyhoeddi adroddiad yn dweud bod hyn yn bwysig ac y dylai cynghorau wario mwy arno, byddai'n annheg i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, sy'n cael trafferth i ymdopi â phenderfyniadau anodd bob wythnos.
Felly, fe wnaethom gymryd ein hamser ac fe sefydlwyd panel arbenigol i graffu ar ein syniadau cychwynnol a gweithio gyda ni, ochr yn ochr â ni, i roi prawf ar y syniadau a oedd yn datblygu, i weld a oeddent yn dal dŵr. Felly, rwy'n credu bod y pwyllgor i'w ganmol am gymryd ei amser, er nad oes amheuaeth gennyf fod y rhanddeiliaid yn teimlo braidd yn rhwystredig ein bod wedi cymryd cyhyd i lunio adroddiad.
Rhaid imi ddweud, roeddwn yn credu bod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn galonogol iawn. Nid wyf yn siŵr a wyf fi wedi'i gamddarllen, ar ôl gwrando ar ddisgrifiad Cadeirydd y pwyllgor a oedd braidd yn surbwch yn fy marn i. Roeddwn yn meddwl bod yr ymateb yn adeiladol iawn ac yn ymgais go iawn i geisio llunio ateb a fyddai'n para i'r hyn sydd, heb amheuaeth, yn set anodd o amgylchiadau.
Roeddwn yn drist iawn o glywed yn ddiweddar fod Cerddorfa Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi rhoi'r gorau iddi am y tro, a chredaf fod hyn yn destun pryder i bawb sydd wedi mynd drwy'r gwasanaethau, fel Cadeirydd y pwyllgor ei hun ac fel Jeremy Miles hefyd, a fu'n gwasanaethu ar y pwyllgor gyda mi. Ceir ymdeimlad go iawn o ymrwymiad, rwy'n credu, ar ran aelodau'r pwyllgor i gadw'r hyn sydd yno.
Roeddwn yn meddwl wrth ddarllen am effaith y modd y mae byd gwaith yn newid, ac awtomatiaeth a digido a sgiliau rydym yn eu dysgu i bobl ifanc i roi gallu iddynt wneud swyddi nad ydynt wedi'u creu eto. Ac mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd codio neu raglennu yw'r peth pwysicaf. Y peth pwysicaf yw creadigrwydd, gwaith tîm, empathi, sgiliau dynol. Yn union y math o bethau a gewch o addysg gerddorol. Ac roeddwn yn gwrando ar y radio yr wythnos hon ar rywun yn sôn am y profiad a roddwyd iddynt, o fod â diddordeb mewn cerddoriaeth yn hytrach na dawn. Roeddent yn cael sylw mawr ac anogaeth drwy ddangos diddordeb yn unig—y math o brofiad diwylliannol rydym am ei roi i bobl ifanc.
Felly, mae'r agenda hon yn ganolog i'r agenda sgiliau yn y dyfodol. Nid yw'n rhywbeth ychwanegol, 'Oni fyddai'n braf pe bai gennym fwy o arian i ariannu gwasanaethau awdurdod lleol?' A dyna pam rwy'n credu bod galwad y pwyllgor i roi hyn ar hyd braich oddi wrth awdurdodau lleol, i roi arweiniad cenedlaethol—. Oherwydd fe edrychasom ar y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd o dan Huw Lewis ac olrhain ei gynnydd, ac ychydig iawn a oedd wedi digwydd iddo. Cawsom dystiolaeth nad oedd yn drawiadol iawn gan CLlLC. Ac rwy'n cydymdeimlo â'r cyfyng-gyngor y maent ynddo, ond maent wedi methu. Maent wedi methu yn y dasg o ddarparu arweinyddiaeth ar hyn ac rwy'n deall pam, ond nid yw hynny'n ddigon da. Felly, credaf ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a dweud y dylid gwneud hyn ar sail Cymru gyfan.
Rwy'n cymeradwyo'r modelau newydd a gyflwynwyd drwy'r gwaddol gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy'n poeni amdanynt, ar ôl bod yn rhedeg elusen a cheisio cael arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae'n anodd ar y naw. Mae'n wirioneddol anodd, ac nid yw ymddiriedolaethau a sefydliadau Llundain yn gyflym i ddod i helpu gwasanaethau diwylliannol y tu allan i'r fetropolis. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod wedi'u sefydlu, ond rhaid inni beidio â gadael iddynt ddihoeni—rhaid inni ddilyn hynny gyda chefnogaeth, ar ffurf arian parod, ond hefyd ar ffurf cymorth. Rwy'n cymeradwyo'r amnest offerynnau cerdd roeddwn yn falch iawn o roi gitâr fy merch iddo. Strymiais ryw ychydig cyn imi ei hestyn iddynt.
Felly, rwy'n credu bod yr ymyriadau y mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud yn iawn ac i'w croesawu. Credaf mai'r cyfeiriad teithio a nodir gan y pwyllgor yn yr adroddiad yw'r un cywir. Mae pwysigrwydd yr agenda hon yn hanfodol, o ran hawliau diwylliannol, ond hefyd o ran sgiliau yn y dyfodol. Ac fe fyddaf fi, ynghyd ag eraill, yn gwylio gyda diddordeb wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r hyn a oedd yn ymateb calonogol yn fy marn i. Ond yn anochel, yr hyn sy'n bwysig yw beth sy'n dilyn. Diolch.