Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 24 Hydref 2018.
Rwy'n cytuno 100 y cant, ond wrth gwrs, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes, rydym ni'n wynebu argyfwng, achos mae gwybodaeth oddi wrth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dweud taw dim ond 13 y cant o ddisgyblion o Gymru sy'n cynnig am le yn ein Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar—13 y cant. Mae yna argyfwng ac mae angen mynd i'r afael â'r peth. Diolch yn fawr.