Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae'n hyfryd i minnau gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma hefyd. Wel, fel roedd Lee Waters wedi'i grybwyll, mae tua phumed ran o’r Senedd yma wedi bod yn aelod o’r pwyllgor yma tra rydym wedi bod wrthi’n traddodi’r pwnc hynod bwysig yma, ac, i fod yn deg, mae’r pwnc o gerddoriaeth yn ein hysgolion ni yn bwnc sylfaenol, o bosib. Dyna y mae cyhoedd Cymru wedi bod yn ei ddweud wrthym ni, a dyna sut y daethom ni i drafod y pwnc hwn yn y lle cyntaf, achos roedd pobl Cymru eisiau inni drafod y pwnc yma. Rwy’n talu teyrnged i frwdfrydedd heintus y Cadeirydd, a’i gallu cerddorol, yn naturiol, yn dod yn amlwg, ond hefyd ei gallu i yrru'r agenda yma ymlaen. Rydym ni i fod, fel cenedl, mewn cariad efo cerddoriaeth—gwlad y gân, wedi’r cwbl, fel y gwnaeth Bethan sôn—ond, wrth gwrs, mae yna argyfwng syfrdanol, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes wrthym ni yn y pwyllgor. Owain Arwel Hughes, wrth gwrs, yw sylfaenydd Proms Cymru, yn enwog drwy’r byd i gyd, a phan fydd o’n dweud bod yna argyfwng, mae’n rhaid i bobl eistedd i fyny a gwrando.
Cawsom ni dystiolaeth fanwl, hir a dwys dros wythnosau a misoedd ac, ie, mi fuon ni’n trin a thrafod pa ffordd oedd y ffordd orau ymlaen. Rwy’n dal i gofio’r dadleuon yna: a oeddem ni’n mynd i ddal i fynd ymlaen efo'r sefyllfa fel yr oedd hi, ac wrth gwrs arian yn brin a blaenoriaethau gwahanol gan wahanol awdurdodau lleol, ac ati, neu a oeddem ni’n mynd i fod yn ddewr a chrybwyll bod angen corff hyd-braich cenedlaethol a oedd yn gallu pennu blaenoriaethau? Wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, dyna ydy’r prif argymhelliad. Hwnnw yw argymhelliad rhif 1: bod angen datblygu corff cenedlaethol hyd braich, achos mae’r agenda yma yn fwy na dim ond dysgu cerddoriaeth yn yr ysgolion. Fel y gwnaeth Lee Waters ei grybwyll, a Bethan cyn hynny, mae’n rhan o’n datblygiad naturiol ni fel pobl, fel plant. Rydym ni’n ennyn disgyblaeth, rydym ni’n ennyn bod yn rhan o dîm, rydym ni’n ennyn gorfod gweithio’n galed weithiau er mwyn gallu dod a rhagori, ac ymarfer dro ar ôl tro er mwyn cyrraedd y brig.
Dim ond rhyw getyn organydd mewn capel fues i erioed, ond mae’r sgiliau amgen hynny yn eich datblygu chi fel nad oes gennych chi un ffordd gul yn yr hen fyd yma. A dyna yr oedd nifer o’n tystion ni yn ei ddweud wrthym ni. Wrth gwrs, rwyf mor hen rŵan, pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddem ni’n cael dosbarthiadau cerddoriaeth ta beth. Roedd pawb yn eu cael nhw. Roeddech chi’n troi i fyny yn naturiol i'w cael nhw; roedd miwsig ar yr agenda. Ac roeddem ni’n eu mwynhau nhw ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ennyn diddordeb ar y pryd ac roedd yna ddigon o gyfle yn yr ysgol i gael gwersi efo’r ffidil—er, nid oeddwn i’n llwyddiannus ar hwnnw. Roedd pawb yn cael cyfle bryd hynny. Roedd yn amser gwahanol. Rwy’n sôn am flynyddoedd maith yn ôl.
Mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y sector wirfoddol. Buasai'n well inni sôn am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun, ond mae mudiad yr Urdd hefyd yn cyflawni gwyrthiau: miloedd o blant yn dysgu pob math o offerynnau a hefyd yn canu yn ein gwahanol gorau ni ac ati, ac yn datblygu fel cantorion. Mae pobl fel Bryn Terfel wastad yn sôn am y ffaith eu bod nhw wedi cyrraedd y brig yn rhannol achos y fath ddisgyblaeth a’r cyfle y gwnaethon nhw ei gael drwy wahanol eisteddfodau'r Urdd a’r genedlaethol. Mae eisiau inni ddatblygu’r llwyfannau naturiol yna sydd gennym ni fel cenedl, achos mae’n fater o gryfder.
Pan rydym ni’n sôn weithiau yn gul, rydym ni’n anghofio am y gwaith bendigedig sy’n mynd ymlaen ar lawr gwlad drwy wahanol aelwydydd yr Urdd a drwy’r Urdd yn genedlaethol yn magu dyfodol pendant i’n pobl. Achos mae yna weithgaredd rhyfeddol, ysbrydoledig yn mynd ymlaen ar lawr gwlad. Ie, gydag athrawon ysbrydoledig ym mhob man, yn enwedig efo'r cerddorfeydd, ond i ennyn y diddordeb yna yn y lle cyntaf, diddordeb mewn cerddoriaeth sy’n mynd i’ch helpu chi i ddatblygu fel person, felly—