Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, fy mhrofiad i o bobl sydd wedi dod i'r DU yw eu bod nhw'n ifanc, yn heini ac yn egnïol. Nid ydyn nhw'n rhoi llawer o bwysau ar y GIG gan eu bod nhw'n gyfranwyr net o ran treth, ac ychydig iawn y maen nhw'n ei gymryd allan o ganlyniad i hynny. Gadewch i mi roi enghraifft o dwristiaeth iechyd iddo: y meddygon sy'n gweithio yn ein GIG, y nyrsys, y ffisiotherapyddion, y staff meddygol—mae pob un ohonyn nhw wedi dod i Brydain i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ni allai'r gwasanaeth iechyd gwladol fodoli—ni allai fodoli—heb y gallu i gael gafael ar arbenigedd meddygol meddygon, nyrsys ac eraill o wledydd eraill. Ydw, rwy'n credu bod twristiaeth iechyd yn beth da gan ei fod yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn cadw'n iach ac yn fyw.