Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:55, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, nid yw eich asesiad o berfformiad eich Llywodraeth yn cael ei rannu gan bobl Cymru mewn gwirionedd, ond un mater allweddol sy'n amlwg yn cael effaith andwyol ar y GIG yw twristiaeth iechyd a mewnfudo. [Torri ar draws.] Ydy. Mae Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif bod trin twristiaid iechyd yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn. Ceir y pwysau hefyd a achosir gan fewnfudo ar raddfa fawr. Dywedodd y Swyddfa—[Torri ar draws.] Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2017, bod 280,000 yn fwy o bobl yn mewnfudo i'r DU nag yr oedd yn allfudo, felly 280,000 yn fwy o bobl â mynediad at ein GIG. Mae hynny'n fwy na phoblogaeth Abertawe. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod mewnfudo heb reolaeth wedi chwarae rhan fawr yn yr argyfwng enfawr yn ein GIG?