Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, sefydlwyd y gweithgor Brexit addysg uwch gennym dros ddwy flynedd yn ôl. Fe'i sefydlwyd i rannu gwybodaeth ac i roi cyngor i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda'n prifysgolion, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed dramor, ac wrth gwrs i sicrhau eu bod yn gallu marchnata eu hunain dramor. Nawr, o fewn Ewrop ei hun, tan y llynedd, roedd yr unig ddwy swyddfa oedd gennym ni yn yr UE, y tu allan i'r DU, yn Nulyn ac ym Mrwsel. Mae hynny'n newid, gyda Paris, gyda Dusseldorf, gyda Berlin yn agor; bydd eraill yn ne Ewrop yn y dyfodol. Byddwn yn rhagweld y bydd y swyddfeydd hynny ar gael i sefydliadau addysg uwch, i'w helpu i hyrwyddo eu neges mewn marchnadoedd Ewropeaidd pwysig, ac wrth gwrs i gynorthwyo myfyrwyr i ddarganfod mwy am Gymru.