Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu bod llawer o Aelodau Cynulliad wedi rhoi cyd-destun Brexit a sut y gallai hynny effeithio ar fyfyrwyr o'r UE a hefyd y rhai sy'n dod o leoedd pellach i ffwrdd na'r UE. Ond, o edrych ar y sefyllfa bresennol, nid oes unrhyw brifysgolion yng Nghymru yn y 10 uchaf ar draws y DU o ran nifer myfyrwyr o'r UE, felly mae hynny'n rhywbeth ar hyn o bryd nad ydym ni'n perfformio'n dda ynglŷn ag ef. Ydy, mae eich Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr UE yn parhau o dan yr un rheolau tan 2019-20, ond hoffwn ddeall beth yr ydych chi'n mynd i allu ei wneud ar ôl yr adeg honno. Efallai na fydd cyhoeddiad sy'n cynnwys dim ond y flwyddyn ariannol nesaf yn ddigon i'r myfyrwyr hynny sy'n cynllunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol, boed hynny o fewn yr UE, neu y tu hwnt i hynny. Felly, beth allwch chi ei wneud i'w hannog nhw i weld Cymru fel lle dichonol iddyn nhw ddod i astudio yno?