Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:53, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rhagwelwyd y bydd ychydig dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd. Fodd bynnag, pan edrychwn ni ar bolau piniwn, mae'n amlwg nad yw pobl Cymru yn credu bod y GIG yn gweithio yng Nghymru. Ym mis Mai 2014, ar ôl 15 mlynedd o'r Cynulliad Cenedlaethol, gofynnodd y BBC ac ICM Research i bobl pa un a oedd a ffaith bod gennym ni'r Cynulliad wedi arwain at welliant yn y GIG, dirywiad, neu heb wneud unrhyw wahaniaeth. Roedd llai nag un o bob pedwar o bobl yn credu ei fod wedi arwain at welliant. Mae iechyd yn amlwg yn faes hanfodol i'ch Llywodraeth ac i bobl Cymru, ond a ydych chi'n credu bod gwario 50 y cant o'r holl gyllideb ar iechyd yn gynaliadwy, ac a yw pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu?