Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, os yw'n awgrymu nad yw gwario 50 y cant ar iechyd yn gynaliadwy, mae'n argymell model arall. Nawr, os yw'n argymell model arall sy'n cynnwys gostyngiad i wasanaethau neu gyflwyno cynllun sy'n seiliedig ar yswiriant, yna rwy'n fodlon gwrando ar ei syniadau. Rwy'n siŵr y gall esbonio'r rheini i bobl Cymru. Rydym ni wedi dangos i bobl Cymru ein bod ni wedi parhau i wario'r arian sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd, er gwaethaf, wrth gwrs, gweld toriadau enfawr—£4 biliwn o doriadau mewn termau real—dros yr wyth mlynedd diwethaf gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod yn iawn, os gofynnwch i bobl yn Lloegr beth yw eu barn nhw ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, eich bod chi'n debygol o gael canlyniadau tebyg iawn i'r rhai yn 2015. Ac, ers 2015, mae pethau wedi gwella'n aruthrol: y gronfa triniaethau newydd a lansiwyd, y ffaith bod gennym ni, wrth gwrs, dargedau, mwy o dargedau, sydd wedi eu cyrraedd—os edrychwn ni ar dargedau ymateb ambiwlansys o ran galwadau coch, maen nhw'n cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i'r gwasanaeth iechyd.