Symiau Canlyniadol Barnett

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ac mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dewis un swm canlyniadol yn rhoi'r darlun llawn, oherwydd mae ein cyllid canlyniadol yn dod yn rhan o floc. Yn rhan o'r bloc hwnnw, bydd rhai pethau a fydd yn ychwanegol a rhai pethau a fydd yn cael eu dileu, oherwydd toriad canlyniadol i gyllid yn yr adran gyfatebol yn Whitehall. Felly, mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hyn sydd yno yn y bloc, ond, wrth gwrs, byddwn, dros yr wythnos nesaf, yn edrych ar sut y bydd yr arian ychwanegol—er nad yw'n agos o gwbl at yr hyn a ddisgrifiwyd—yn cael ei ddyrannu mewn gwirionedd.