1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU? OAQ52844
Bydd penderfyniadau am ddyrannu cyllid ychwanegol yn cael eu gwneud gan Gabinet Cymru yn y ffordd arferol.
Edrychwn ymlaen at glywed y manylion hynny maes o law, os nad heddiw. Ond fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud wrth yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach ei bod hi'n iawn wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth i fusnesau. Ni wnaeth ailadrodd ei honiadau mwy amheus, efallai, ei bod wedi cynnig mwy o gymorth nag unman arall yn y DU, na bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn cael cymorth nag mewn mannau eraill. Dywedodd nad oedd yn gwybod beth oedd swm canlyniadol Barnett. £26 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf yw'r rhif sydd gennym ni. A all ef ddweud wrthym ni pa un a fydd busnesau Cymru yn cael y math hwnnw o gymorth, fel y bydd ar gael i'w cystadleuwyr yn Lloegr?
Ac mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dewis un swm canlyniadol yn rhoi'r darlun llawn, oherwydd mae ein cyllid canlyniadol yn dod yn rhan o floc. Yn rhan o'r bloc hwnnw, bydd rhai pethau a fydd yn ychwanegol a rhai pethau a fydd yn cael eu dileu, oherwydd toriad canlyniadol i gyllid yn yr adran gyfatebol yn Whitehall. Felly, mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hyn sydd yno yn y bloc, ond, wrth gwrs, byddwn, dros yr wythnos nesaf, yn edrych ar sut y bydd yr arian ychwanegol—er nad yw'n agos o gwbl at yr hyn a ddisgrifiwyd—yn cael ei ddyrannu mewn gwirionedd.