Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad yn fuan. Os gallaf ysgrifennu ato gyda dyddiad i roi rhyw syniad iddo o'r hyn y gallai'r amserlen fod, byddaf yn gwneud hynny. Ond bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad am yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol yng ngwaith biomas y Barri—efallai os gwnaf i ysgrifennu at yr aelod bryd hynny gyda mwy o fanylion o ran yr amserlen.