1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar adeiladu llosgyddion? OAQ52842
Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' a nodyn cyngor technegol 21 ar wastraff yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer asesu cynigion ar gyfer seilwaith rheoli gwastraff yng Nghymru. Ac rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi gweithredu'r polisi rheoli gwastraff cyffredin yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'.
Diolch am yr ateb yna. Mae TAN 21, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, yn ymdrin â gwaredu gwastraff, ond, yn wahanol i gloddio glo brig, lle, ers 2009, y mae'n rhaid adeiladu pyllau glo mwy na 500 metr oddi wrth gartrefi, nid yw'n ymddangos bod rheol ar bellter llosgyddion oddi wrth tai. Mae gen i losgydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Llansamlet Abertawe sy'n agos at dai ac ysgol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pellter oddi wrth dai ac ysgolion ar gyfer adeiladu llosgyddion a diwygio TAN 21 yn unol â hynny?
Wel, byddai'n rhaid cael sail wyddonol ar gyfer gwneud hynny—o ran pam byddai 500 metr yn cael effaith fuddiol. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw bod llosgi a chyd-losgi yn ddarostyngedig i ofynion diogelu llym y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol. Maen nhw wedi eu hymgorffori yn neddfwriaeth Cymru ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw'n cynnwys gofynion y dylai fod terfynau allyriadau llym ar gyfer sylweddau a allai lygru; ceir gofynion monitro ac amodau gweithredu sy'n cael eu cymhwyso trwy drwyddedau amgylcheddol a gyflwynir gan y rheoleiddiwr amgylcheddol. Gallaf hefyd ddweud, os oes effeithiau andwyol, wrth gwrs, ar amwynder neu'r amgylchedd, ac na ellir eu lliniaru, yna wrth gwrs, gellir gwrthod caniatâd cynllunio ar y sail honno.
Prif Weinidog ym mis Mawrth eleni, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, yng nghyswllt y llosgydd yn y Barri, bod y Llywodraeth yn bwriadu cael asesiad wedi ei gynnal o'r effaith amgylcheddol. Hysbysodd y Llywodraeth y datblygwr yn ôl ym mis Chwefror eleni bod hynny'n mynd i ddigwydd. Hyd yma, nid yw'r Llywodraeth wedi gorchymyn i'r asesiad o'r effaith amgylcheddol hwnnw gael ei gynnal, ar ôl aros tua wyth i naw mis, o gofio bod y Llywodraeth ar y pryd ym mis Mawrth yn 'bwriadu'—pryd ydym ni'n mynd i symud o 'fwriadu' i orchymyn y bydd yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal? A allwn ni gael dyddiad gennych chi?
Wel, bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad yn fuan. Os gallaf ysgrifennu ato gyda dyddiad i roi rhyw syniad iddo o'r hyn y gallai'r amserlen fod, byddaf yn gwneud hynny. Ond bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad am yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol yng ngwaith biomas y Barri—efallai os gwnaf i ysgrifennu at yr aelod bryd hynny gyda mwy o fanylion o ran yr amserlen.
Caroline Jones.
Cwestiwn 5, Dai Lloyd.