Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, o ystyried y feirniadaeth o Lywodraeth y DU o'r ffynhonnell benodol honno, y sylwadau a wnaed gan arweinydd Cyngor Abertawe y cyfeiriwyd atyn nhw gan Dai Lloyd, rwy'n credu bod hynna'n gryn wyrdroad o'r sylwadau a wnaed ganddo ef, ac, yn wir, eich Llywodraeth chi, pan mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am benderfyniad ar ddichonoldeb y morlyn. A ydych chi'n cytuno â'r sylwadau hyn, neu a ydych chi'n dal i gynnig £200 miliwn o arian trethdalwyr er mwyn cefnogi prosiect o'r fath?