Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r comisiwn, wrth gwrs, yn un o rhanddeiliaid allweddol ein pwyllgor, a thrwy gydol y cyfnod adrodd hwn bu gennym ni berthynas effeithiol ac adeiladol, sydd wedi helpu i ddylanwadu ar amrywiol agweddau o'n gwaith. Roeddwn yn falch o groesawu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r Senedd yn gynharach heddiw i nodi cyhoeddi ei adroddiad, 'A yw Cymru'n decach?' 2018. Bu hyn yn rhan bwysig o waith y comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi arwain at adroddiad pwysig a chynhwysfawr sy'n rhoi sylfaen dystiolaeth glir ar gyfer asesu p'un a ydym ni'n gwneud cynnydd o ran lleihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Rwy'n gwybod y bydd ein pwyllgor yn defnyddio'r adroddiad hwn fel offeryn pwysig yn ein gwaith craffu yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n nodi nifer o argymhellion clir, trawsbynciol, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol pe baen nhw'n cael eu gweithredu. Mae eu natur drawsbynciol yn helpu i ddangos bod cydraddoldeb yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn hytrach na'i fod yn un agwedd nad oes ond yn rhaid i rai pobl ei hystyried. Yn benodol, rwy'n tynnu sylw at yr argymhelliad i Lywodraeth Cymru osod targedau cyraeddadwy a gorfodol i leihau tlodi ac i adrodd ar gynnydd yn flynyddol. Mae hyn i raddau helaeth iawn yn cyd-fynd â chanfyddiadau ein pwyllgor. Buom yn galw am un strategaeth wrth-dlodi ers peth amser bellach, ynghyd â'r angen am dargedau a dangosyddion clir ar gyfer monitro cynnydd.
Rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad y Comisiwn ac yn gweithredu hynny cyn gynted â phosibl. Mae hi'n bwysig ein bod yn gallu deall pa gynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â thlodi, o ystyried maint y problemau economaidd-gymdeithasol yma yng Nghymru. Ac mae deddfu ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn bwysig iawn hefyd, ac rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad y Cwnsler Cyffredinol y bydd gwaith yn mynd rhagddo i ystyried y deddfu hwnnw.
Dirprwy Lywydd, gan symud ymlaen at agweddau eraill ar yr adolygiad blynyddol, roedd gwaith y comisiwn ar brofiadau rhieni beichiog a newydd wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ein gwaith diweddar ar rianta a chyflogaeth, a drafodwyd gennym ni yn y Siambr y tymor hwn. Nod ymgyrch Gweithio Blaengar y comisiwn yw gwneud gweithleoedd y mannau gorau y gallan nhw fod ar gyfer menywod beichiog a rhieni newydd. Mae'n galonogol bod dros 30 o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru wedi llofnodi'r addewid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rwy'n mawr obeithio y bydd mwy o gwmnïau a sefydliadau yn llofnodi ac yn helpu i sicrhau gwelliant angenrheidiol.
Mae'r adolygiad hefyd yn amlygu'r gwaith y bu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud fel y gallwn ni ddeall yn well oblygiadau posibl Brexit. Bydd hwn yn fater y bydd dadl arno yfory yn y Siambr, ond rwy'n pwysleisio bod y comisiwn wedi chwarae rhan bwysig yn nealltwriaeth ein pwyllgor o'r hyn y gallai Brexit ei olygu ar gyfer hawliau dynol. Mae mwyafrif ein pwyllgor yn cefnogi galwad y comisiwn i sicrhau bod hawliau'n sy'n cael eu gwarchod ar hyn o bryd o dan Siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn parhau unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Edrychaf ymlaen at drafod y materion hynny mewn mwy o fanylder yfory.
Dirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ganmol adolygiad y Cynulliad a'r gwaith pwysig y mae'r comisiwn yn parhau i'w wneud yma yng Nghymru.