Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i ddod ag ansicrwydd, yn enwedig yng nghyswllt cydraddoldeb a hawliau dynol, a byddwn yn trafod y materion hynny mewn mwy o fanylder yfory. Yn y cyfnod heriol hwn, mae gwaith y comisiwn yn parhau i fod yn hanfodol, a diolchaf eto i dîm Cymru a'u cyd-aelodau o bob rhan o'r DU am y cyngor a'r dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt i adroddiad ein cydbwyllgor ynglŷn â chydraddoldebau a Brexit. Mae degawdau o aelodaeth o'r UE wedi rhoi gwaddol o fanteision inni sy'n cwmpasu agweddau niferus iawn, iawn ar fywyd bob dydd yng Nghymru, ac rydym ni'n bwriadu diogelu'r manteision hyn yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais i esgeuluso'r rhain neu greu amodau gwaeth wrth inni adael yr UE.
Bydd creu Cymru fwy cyfartal, lle mae gan bawb y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial ac yn gallu cyfrannu'n llawn at yr economi, yn galluogi Cymru i fod yn fwy ffyniannus ac arloesol. Felly mae'n hanfodol, er enghraifft, bod pob menyw yn gallu cyflawni a ffynnu, ac rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau cyflogaeth deg yng Nghymru, i amddiffyn hawliau gweithwyr, ac i sicrhau nad yw menywod yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle o ran beichiogrwydd neu famolaeth. Mae ymgyrch Gweithio Blaengar Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nid yn unig o fudd i fenywod yn y gweithle—mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da i gefnogi staff yn y gweithle yn gyffredinol.
Mae'r comisiwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys, drwy arddel y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Yn Erbyn Menywod, asesu'r cynnydd o ran hawliau menywod ers 2013, a gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ein rhaglen ein hunain o waith ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn parhau drwy'r adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Chwarae Teg yn arwain ar gyflawni cam 2 yr adolygiad, gan adeiladu ar y gwaith y gwnaethon nhw ei gwblhau yng ngham 1. Mae arweinydd y tŷ yn cadeirio'r grŵp llywio sy'n goruchwylio'r adolygiad, a chynrychiolir Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan Ruth Coombs. Byddwn yn ystyried cyflwyniad Y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Yn Erbyn Menywod a'r dystiolaeth a'r argymhellion o 'A yw Cymru'n Decach? (2018)?'
Mae'n golygu gweithio mewn meysydd cydraddoldeb gwahanol, gan gynnwys hil, anabledd ac oedran, gyda'r nod o sicrhau na chaiff unrhyw un ei anghofio. Rydym ni'n cydnabod nad yw menywod a merched sy'n wynebu gwahaniaethu lluosog o bob math yn aml yn cael eu cynnwys yn y cynnydd. Erbyn haf 2019, bydd gennym ffordd glir, ar ffurf adroddiad cam 2, ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, a bydd y gwaith yn parhau y tu hwnt i ddiwedd ffurfiol y prosiect i sicrhau bod y pethau cywir yn cael eu gwneud i gyflawni'r nod hwn.
Eleni, rydym ni'n ddiau wedi cyflymu'r cynnydd o ran cyflawni'r amcanion yn ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae nifer y gweithwyr yn y sector cyhoeddus yr ydym ni wedi eu hyfforddi wedi cyrraedd 135,000. Am y tro cyntaf, mae byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol wedi cyhoeddi strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym ni wedi cynnal dwy ymgyrch gyfathrebu lwyddiannus iawn, ac rydym ni wedi gweithio gyda rhanddeiliaid a goroeswyr i ddylanwadu ar sut y caiff polisïau eu datblygu a'u gweithredu. Ond mae mynydd i'w ddringo o hyd, ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau ein bod yn darparu'r hyn sydd ei angen, lle mae ei angen a phan fo ei angen.
Yn ystod y flwyddyn hon, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynnal ymarfer monitro helaeth i asesu pa mor dda yw sector cyhoeddus Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r gwaith hwn yn agos at gael ei gwblhau, ac edrychwn ymlaen at drafod y canfyddiadau gyda'r Comisiwn. Rwyf hefyd wedi bod yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i gryfhau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Ein blaenoriaethau cychwynnol, y mae cysylltiad agos rhyngddyn nhw â'r adolygiad ynghylch cyfartaledd rhwng y rhywiau, yw mynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn cyflog a chyflogaeth. Byddwn yn mynd ati rhag blaen i gryfhau'r canllawiau a'r rheoleiddio ynghylch y dyletswyddau hyn, i wella'r trefniadau monitro a sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynglŷn â pherfformiad y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd a bod yr wybodaeth honno yn hawdd dod o hyd iddi.
Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud yng Nghymru i hybu hawliau pobl anabl. Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Being disabled in Britain' a'u hymchwiliad tai wedi amlygu agweddau y mae angen meddwl yn ddwys yn eu cylch, ac wedi dylanwadu ar ein fframwaith drafft newydd, ' Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol '. Rwy'n eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad, sydd ar agor tan ganol mis Ionawr.
Mae adroddiad y comisiwn ar effaith gronnol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU, rhai sydd wedi eu gweithredu a'u cynnig, ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, yn agoriad llygad syfrdanol o safbwynt mesurau cynni Llywodraeth y DU. Mae'n hollol anghywir mewn cenedl wâr i anwybyddu effeithiau'r diwygiadau hyn ar gydraddoldeb, ac mae'n hollol anghyfiawn eu bod yn cael effaith mor anghymesur ar incwm y grwpiau tlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ac eto cyfuniad o incwm llai a chwtogi ar wasanaethau cymorth hanfodol yw'r gwirionedd llwm i ormod o bobl yn y DU. Byddwn yn parhau â'n hymdrechion i liniaru effaith y mesurau cynni ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond nid yw hi'n bosibl inni wneud popeth sydd ei angen mewn gwirionedd. '
Mae 'A Yw Cymru'n decach? (2018)' yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, sef mynd i'r afael â phrif reswm anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi.
Mae arweinydd y tŷ wedi trafod hyn yn helaeth, ac, yn benodol, rwy'n gwybod ei bod hi'n diolch i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei chyngor ynglŷn â sut y gallai hyn weithio yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O fewn yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i swyddogion bennu cwmpas prosiect ymchwil i fodelu a gwerthuso beth fyddai effeithiau ymarferol tebygol dewisiadau gwahanol. Mae ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau gwarchodedig yn ofynion sylfaenol ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol yma yng Nghymru. Mae'r ymgysylltiad hwn yn hanfodol er mwyn ddeall, canfod a mynd i'r afael â rhwystrau i gydraddoldeb a darparu polisïau a gwasanaethau sy'n effeithlon ac yn effeithiol.
Mae 'A yw Cymru'n decach?' yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol a bydd yn cyfrannu'n sylweddol at waith Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf, nid lleiaf yr ymgynghoriad ar ein set nesaf o amcanion cydraddoldeb ar gyfer 2020-24, a fydd yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd sicrhau bod ein hamcanion yn gydnaws â heriau'r Comisiynydd yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru mewn modd cydgysylltiedig, penodol. Rwy'n gobeithio y bydd modd datblygu amcanion, nid yn unig ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond rhai y gellir eu rhannu a'u cefnogi ledled sector cyhoeddus Cymru.
Mae ymgysylltu gyda'r sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill yn rhan fawr o waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys drwy ei rwydwaith cyfnewid. Hefyd eleni roedd y gynhadledd flynyddol dan ei sang, ac roedd yn canolbwyntio ar drais ar sail hunaniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd Nazir Afzal, un o'r ddau gynghorydd cenedlaethol ar y materion hyn, yn siarad yn y digwyddiad. Roedd darlith cadeirydd y comisiwn, David Isaac, ar hawliau dynol yn yr unfed ganrif ar hugain yn boblogaidd iawn hefyd, ac roedd yn edrych ar effaith bosibl Brexit yng Nghymru.
Felly, rydym ni'n diolch i'r comisiwn am ei waith, nid yn unig eleni, ond ers ei sefydlu. Rwy'n credu bod yr enghreifftiau hyn yn pwysleisio pa mor bwysig i gymdeithas sifil Cymru yw'r gwaith y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud yng Nghymru i wella bywydau a diogelu hawliau. Mae'r Comisiwn yn gwerthuso, yn gorfodi, yn dylanwadu ac, yn hanfodol, yn sbarduno newid. Rydym yn dal yn ddiolchgar am ei arweiniad ac yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb cadarn ac unigryw yng Nghymru.