Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon ar adolygiad blynyddol pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y flwyddyn 2017-2018. Lansiwyd yr adolygiad yn gynharach heddiw yma yn y Senedd gyda rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig dros dlodi enbyd a hawliau dynol ac o dan awenau Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.