Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rwy'n croesawu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf inni o ran y sefyllfa ynglŷn â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn 2018. Rwyf eisiau canolbwyntio heddiw, ac felly eto yfory, yn y ddadl ar gydraddoldebau a Brexit, ar un o'r camau, a hwnnw yw'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan y comisiwn ac y mae dau bwyllgor y Cynulliad yn ei gefnogi, sef y dylai Llywodraeth Cymru weithredu'r ddyletswydd cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn 'A yw Cymru'n decach?', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r ddyletswydd cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel bod cyrff cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth briodol i'r angen i leihau anghydraddoldebau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru arnom ni y gwneir hyn mor gyflym â phosibl.
Rwyf eisiau defnyddio'r cyfle heddiw i ddychwelyd at ddwy thema allweddol y bûm yn siarad yn eu cylch dros y flwyddyn ddiwethaf. Y gyntaf yw fy ymrwymiad i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Yn gynharach eleni, sylwais y dywedodd Fforwm Economaidd y Byd y bydd yn cymryd 217 mlynedd i sicrhau cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau. Cawsom y cyfle eleni i graffu ar effaith yr hyn mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei olygu i gwmnïau gyda gweithluoedd o dros 250, gyda'r diffygion ofnadwy mewn anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau i'w gweld yn y penawdau. Ac rwy'n llwyr gefnogi maniffesto Y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod yn hyn o beth, sy'n galw am haneru'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau erbyn 2028. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddangosodd yn ddiweddar bod y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r ganran isaf erioed, o 8.6 y cant, o'i gymharu â 9.1 y cant y llynedd, ac mae ar ei isaf ers i gofnodion ddechrau ym 1997, pan yr oedd yn 17.4 y cant. Ond fel y dywedodd Frances O'Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, wrth ymateb i'r ffigurau hyn:
ni fydd menywod sy'n gweithio yn dathlu'r gostyngiad bach iawn hwn yn y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Os yw'r cynnydd mor araf â hyn, bydd cenhedlaeth arall o fenywod yn treulio eu holl fywyd gwaith yn aros i gael eu talu'r un faint â dynion.
Ac wrth gwrs, fe gafodd hi gefnogaeth Sam Smethers o Gymdeithas Fawcett, a ddywedodd nad oes bron dim wedi newid i bob pwrpas o ran anghydraddoldeb cyflog, a'i fod yn gyfle a gollwyd ar gyfer ein heconomi. Dywedodd hefyd y gallai cael gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle arwain at gynnydd o £150 biliwn mewn cynnyrch domestig gros.
Mae'r ail bwynt, a'r olaf yr hoffwn ei wneud, yn ymwneud â'r angen i fenywod gael cydraddoldeb llwyr rhwng y rhywiau yn y Cynulliad, fel yr argymhellwyd yn 'Senedd Sy'n Gweithio i Gymru'. Fe wnaethom ni lwyddo i gael y cydraddoldeb hwn rhwng y rhywiau yn 2003, am gyfod rhy fyr o lawer, o ganlyniad i gamau gweithredu cadarnhaol Llafur Cymru megis gefeillio etholaethau a rhestrau byr menywod yn unig. Ond rydym ni wedi llithro yn ôl unwaith eto fel Cynulliad. Eto mae'r farn gyhoeddus wedi symud ymlaen, fel y gwelsom ni yn y pôl piniwn diweddar gan Beaufort Research yn y Western Mail, a ddangosodd yr wythnos diwethaf bod 53 y cant o'r boblogaeth naill ai'n sicr neu o bosib o blaid deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod nifer cyfartal o Aelodau Cynulliad gwrywaidd a benywaidd. Roedd y mwyafrif a ymatebodd o blaid y ddeddfwriaeth yn un a oedd i'w weld ledled Cymru, gyda'r bobl dlotaf ac ieuengaf fwyaf o blaid y cydbwysedd hwn. A dyma'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli yn fy etholaeth i, yr wyf eisiau i'w lleisiau gael eu clywed yn y Cynulliad hwn a chan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, fe hoffwn i gael y ddeddfwriaeth hon ar waith i gael cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Cynulliad mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2021, ac rwy'n cefnogi prif swyddog gweithredol Chwarae teg, sy'n croesawu'r pôl piniwn hwn, fel finnau, sy'n dweud bod yn rhaid i wleidyddion o bob lliw weithredu. Ac fe gaiff hyn ei ategu gan Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei sylwadau yn ei adroddiad ar hybu hawliau dynol yng Nghymru. Maen nhw'n dweud:
Rydym ni wedi gwneud argymhellion i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â threfniadau etholiadol gyda'r nod o sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth, fel y gall swyddogaethau fel Gweinidogion, penodedigion cyhoeddus a chynghorwyr rannu swydd, ac y dylai holl awdurdodau cyhoeddus Cymru hysbysebu pob swydd fel rhai hyblyg fel egwyddor graidd.
Felly, rwy'n un o'r gwleidyddion hynny sy'n credu bod yn rhaid inni weithredu. Byddaf yn parhau i bwyso i fabwysiadu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac i ddechrau gweithredu'n ddeddfwriaethol i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn unol â barn y cyhoedd, a cheisio creu'r hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol yn gwbl briodol y dylai fod gennym, sef Cymru decach a mwy cyfartal.