Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Nodir rhai bylchau data yn yr adroddiad. Rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth ateb yr alwad am 'Siarad â fi', a datblygu gwelliannau i leihau achosion o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion, oherwydd yr hyn sy'n lladd y mwyaf o ddynion o dan 45 oed yng Nghymru yw hunanladdiad mewn gwirionedd. Ceir bylchau enfawr hefyd yn y data a'r ymchwil ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl ymhlith lleiafrifoedd ethnig. Rhoddaf un enghraifft i chi. Nid oes unrhyw gyfraddau hunanladdiad ar gyfer unrhyw un o leiafrif ethnig, felly nid ydym yn gwybod a yw rhai cymunedau yn teimlo effaith mewn ffyrdd penodol. Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod eisoes bod cyfraddau uwch o wahaniaethu ar sail iechyd yn erbyn pobl o gefndiroedd lleiafrifol, sy'n aml iawn yn cael eu hystyried yn ymosodol ac yn gwrthod cydweithredu, ac mae'r diffyg cyfieithu digonol yn y gwasanaeth iechyd yn sicr yn gwaethygu hyn. Ac mae hiliaeth oddefol, a dweud y gwir, hefyd yn broblem.
Nid yw'r holl sgyrsiau y mae angen inni eu cael, wedi'u cynnwys yn y ddogfen mewn gwirionedd—byddaf yn siarad am hunanladdiad eto, er enghraifft. Mae ymchwil ar gael sy'n dangos bod menywod o dde Asia ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad na menywod gwyn, yn enwedig yn y grŵp oedran 18-24. Rwy'n credu ei bod yn dda bod cymorth arbenigol wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a menywod sydd ag anghenion cymhleth, o ran cymorth cam-drin domestig. Ond mae diffyg gwasanaethau sy'n ymateb yn ôl rhyw ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig. A dynion yw'r grŵp lleiafrifol mwyaf o ddioddefwyr o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac eto nhw sy'n cael y lefel isaf o gymorth.
Rwyf am sôn am ddiffyg cydraddoldeb ym maes tai, er nad yw wedi'i nodi yn yr adroddiad mewn gwirionedd. Oherwydd os ydych yn rhiant dibreswyl—ac, yn wir, mae'r term ychydig yn gamarweiniol—mae'n ymwneud ag os oes gennych chi lai o amser i ofalu am eich plant, yna ni chaiff hynny ei ystyried o ran dyrannu tai, gan gymdeithasau tai na chynghorau. Felly, efallai eich bod yn gofalu am eich plant bob penwythnos, neu ar ddau ddiwrnod yr wythnos, ond os ydych chi ar y rhestr dai, ni chaiff eich plant eu hystyried. Felly, er enghraifft, gallai fod gennych bump o blant, a chewch fflat un ystafell wely. Yn y gorffennol, rwy'n credu bod hyn wedi'i ystyried yn fater yn ymwneud â dynion, ond yr hyn rwyf i'n ei weld trwy fy ngwaith—rwy'n tueddu i ddenu llawer o achosion fel hyn—yw ei fod yn dod yn llawer mwy niwtral o ran rhyw. Roedd menyw yn fy swyddfa i yr wythnos diwethaf yn sôn am yr union broblem hon, ac o ganlyniad mae'n bosibl iawn y bydd hi'n colli cysylltiad â'i phlant. Mae'n anghydraddoldeb gwirioneddol ac nid ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd.
Hoffwn i ymdrin ag un gwelliant—a doeddwn i ddim yn gallu cytuno â Gareth. Mae gwelliant Plaid Cymru yn dweud ei bod yn gresynu at y cynnydd ar lefel ryngwladol yn nifer y mudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dileu amddiffyniadau hawliau dynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ni welaf ddim o'i le ar hynny—ni sonnir am unrhyw grŵp penodol, ni chaiff neb eu henwi, dim ond cydnabyddiaeth ydyw o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn y byd. Ac rwy'n llwyr gefnogi hynny. Rwy'n ei chael hi'n rhyfedd y byddai unrhyw un yn dymuno pleidleisio yn erbyn cynllun i gadw hawliau dynol—rhyfedd iawn. Diolch.