Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Hoffwn ddiolch i bwyllgor Cymru, dan arweiniad June Milligan, a staff y comisiwn, am eu gwaith ar y materion pwysig iawn hyn. Roeddwn i am ddechrau trwy dynnu sylw at yr anghydraddoldeb a'r gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc Sipsiwn/Roma/Teithwyr yn arbennig. Mae peth o hyn wedi'i amlygu yn yr adroddiad hwn. Pythefnos yn ôl es i i ddegfed fforwm cenedlaethol Travelling Ahead yn Neuadd Baskerville yn y Gelli, lle'r oedd 50 o bobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr/Roma, a llawer o'r sefydliadau sy'n gweithio gyda'r cymunedau hynny, a staff Comisiwn y Cynulliad. Roedd hi'n ddiwrnod hynod o ysbrydoledig—roedd y bobl ifanc yn llawn brwdfrydedd ac mor falch o gael y cyfle i fynegi eu barn ar eu lle mewn cymdeithas. Cymerais i ran mewn grŵp a oedd yn trafod y diffyg ymwybyddiaeth o ddiwylliant Sipsiwn/Teithwyr, yn arbennig ymhlith athrawon a disgyblion eraill yn yr ysgolion. Ac un o'r dymuniadau eithaf syml a oedd gan y plant hynny oedd cael gwasanaeth arbennig wedi'i neilltuo i'w diwylliant nhw. Mewn gwirionedd, fe ddywedodd llawer o'r plant na fydden nhw byth yn dweud eu bod yn Sipsiwn—roedden nhw'n cuddio'u tarddiad—oherwydd byddai agweddau pobl tuag atyn nhw yn newid ar unwaith o wybod eu bod yn Sipsi.
Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y trafodaethau oedd pwysigrwydd aruthrol y gwasanaeth addysg i Deithwyr, a dywedodd llawer o'r plant na fydden nhw yn yr ysgol o gwbl heb gefnogaeth y gwasanaeth, ac, fel y nodir yn yr adroddiad, dim ond un ym mhob pump o blant Sipsiwn/Roma/Teithwyr sy'n gadael yr ysgol â phum TGAU gradd A-C, sy'n feirniadaeth lem, mewn gwirionedd, o'r gwasanaeth addysg yr ydym yn ei ddarparu ar eu cyfer. Gwn y bu llawer o bryder ynghylch sut y mae diffyg neilltuo arian ar gyfer y grant gwella addysg wedi effeithio ar y gwasanaeth addysg i Deithwyr. Nid wyf yn gwybod pa un a fydd modd i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, ddweud beth fu'r effaith ar y gwasanaeth hwnnw neu a fyddai angen iddo gyfeirio at arweinydd y tŷ pan ddaw hi yn ôl. Ond rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn cael tystiolaeth wirioneddol o'r effaith ar y gwasanaeth addysg i Deithwyr.
Hefyd, yn 'A Yw Cymru'n Decach?' ceir cyfeiriad at y ffaith bod teuluoedd Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ynghyd â phobl drawsryweddol a ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn parhau i wynebu anawsterau wrth gael gafael ar wasanaethau iechyd o safon, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hynny hefyd, oherwydd gwn ein bod wedi cael ymchwiliad arbennig i sut y dylem ddarparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Teithwyr, a hoffwn i wybod pa waith dilynol a wnaed i hynny.
Mae'n ymddangos mai rhagfarn yn erbyn Sipsiwn yw'r rhagfarn dderbyniol olaf. Mae aelodau'r gymuned Teithwyr wedi dod ataf i sôn am y cyhoeddusrwydd yn dilyn yr angladd ar Ffordd Rover yng Nghaerdydd, a arweiniodd at dagfeydd traffig mewn rhannau o'r ddinas. Roedd y sylwadau a gafodd eu postio ar Facebook yn dilyn yr erthygl ar WalesOnline yn gwbl syfrdanol, gan ddweud pethau fel, 'Mae Auschwitz yn wag ar hyn o bryd' a sylwadau erchyll eraill. Sut mae pobl, bodau dynol, i fod i deimlo os yw sylwadau fel hyn yn cael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd, ar gyfryngau cymdeithasol? Sut maen nhw byth yn mynd i deimlo eu bod yn rhan o'r gymdeithas? Rwy'n credu bod hyn yn her enfawr i bob un ohonom, ac rwy'n credu, pan fyddwn ni i gyd yn siarad, bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o sut y mae pobl yn teimlo, sut maen nhw'n ymateb i'n sylwadau ni ac unrhyw beth sy'n arwain at y mathau hynny o sylwadau.
Ond un o'r pethau cadarnhaol iawn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw sefydlu'r senedd ieuenctid, ac mae'n hynod o gyffrous, yn fy marn i, bod pleidleisio yn digwydd yn awr. Ceir 480 o ymgeiswyr. Rwyf i wrth fy modd y bydd, ar y rhestr atodol, lle i berson ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ac, ar y diwrnod yr oeddwn i yn Neuadd Baskerville, roedd y bobl ifanc yn pleidleisio dros eu dewis nhw. Roedd yn ymddangos i mi mai dyma'n llwyr y trywydd iawn y dylem ni fynd arno fel cymdeithas—i wneud ymdrech i gynnwys pobl nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys yn naturiol a lle ceir rhagfarn echrydus. Roedden nhw'n gyffro i gyd. Roedd ganddyn nhw eu maniffestos. Roedd tri pherson ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac roedd yn teimlo fel petai hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn, ac roeddwn i'n falch iawn bod y Cynulliad yn gwneud hyn ac y byddai'r cyfle hwn yn cael ei gynnig, oherwydd mae llawer iawn i frwydro yn ei erbyn.