– Senedd Cymru am 7:11 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Iawn, rydym yn awr yn y cyfnod pleidleisio. Rydym yn parhau i bleidleisio yn electronig. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 2 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 2.
Symudwn yn awr i'r bleidlais ar welliant 3. Galwaf am y bleidlais honno ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 3.
Rydym yn symud i bleidlais ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 36, 10 wedi ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 5.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6849 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.
2. Yn nodi:
a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a
b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.
3. Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
4. Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.