Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r Prif Weinidog ddoe yn nigwyddiad lansio Wythnos Cyflog Byw yn Bigmoose Coffee Company ac o groesawu'r cynnydd yn y gyfradd cyflog byw go iawn i £9 yr awr. Mae gennym ni eisoes nifer o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw go iawn. Yn fy etholaeth i, Bro Morgannwg, maen nhw'n cynnwys Cyngor Tref y Barri, Gwasanaethau gwirfoddol Morgannwg, Cyngor ar Bopeth, Santander—canghennau ohono—ac mae mwy o gyflogwyr yn ymuno â nhw yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd. Bydd cefnogi'r ymgyrch cyflog byw go iawn yn helpu i fynd i'r afael â chyflog isel, yn gwrthsefyll twf dyled a defnydd banciau bwyd gan gefnogi economi gwaith teg. Mae'n gwneud synnwyr economaidd ac mae'n nodweddu cymdeithas ofalgar, dosturiol a theg. A gawn ni ddatganiad ar fesurau Llywodraeth Cymru i gefnogi cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu cyflog byw go iawn yng Nghymru?