2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:23, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig o ran bod arferion siopa pobl wedi newid. Rydym wedi gwneud llawer iawn fel llywodraeth yng Nghymru i gefnogi llawer o fusnesau o ran cymorth gydag ardrethi. Yn amlwg, unwaith eto, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniadau ynghylch y cyllid ychwanegol yr ydym yn ei gael.