Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch. Yn amlwg, rydym yn gweithio'n helaeth gyda'r sector pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru i nodi a cheisio mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl. Felly, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o sawl un o'r rhaglenni sydd gennym yn ein rhaglen ariannu cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae gennym gydgysylltydd yng Nghaerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau Yemenïaidd. Mae canfyddiadau'r prosiect hwnnw'n cyfrannu at ddatblygiadau polisïau Llywodraeth Cymru. Efallai y byddwch yn ymwybodol fod digwyddiad coffâd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi ei gynnal yr wythnos diwethaf yn y Deml Heddwch, mewn partneriaeth â Horn Development Association, ac anrhydeddodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol y cyfraniad a wnaed gan gymunedau o'r fath yn ystod y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac roedd hynny'n cynnwys morwyr masnachol Yemenïaidd.
Mae gennym raglen eang o waith i gefnogi'r gymuned o dan ein rhaglenni cydlyniant cymunedol a'n rhaglenni ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae honno'n gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau, yn amlwg, nid pobl Yemenïaidd yn unig, a gydag unigolion yng Nghymru.